Part of the debate – Senedd Cymru am 6:42 pm ar 15 Chwefror 2023.
A wnaethoch chi edrych ar y model amgen, sef yr un roedd y pwyllgor yn ei argymell yn yr adroddiad a gadeiriwyd gennych—y model amgen o ddarparu'r uned yng Nghymru, ac felly byddai anghenion iaith Gymraeg yn cael eu diwallu ac yn amlwg byddai'n nes at adref i lawer o fenywod, yn hytrach na'r model sydd bellach yn cael ei gynnig, sy'n mynd i greu llawer o broblemau gydag anghenion ieithyddol mamau a'u teuluoedd? Ac i fod yn onest, mae Caer yn bell iawn o Amlwch.