Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 15 Chwefror 2023.
Diolch am yr ateb. Llwyddiant y rhaglen weithredu genedlaethol ar fawndiroedd yw ei gallu i gyflawni ar unwaith, ond mae wedi dod i fy sylw fod llawer o waith yn cael ei ddal yn ôl neu nad yw'n mynd rhagddo oherwydd bod tirfeddianwyr yn aros i weld a fydd hi'n ofynnol cynnwys mawn diraddiedig yn y cynllun ffermio cynaliadwy newydd, neu a fyddai'n well iddynt ymgymryd â'r gwaith drwy'r cynllun ffermio cynaliadwy. Felly, a all y Gweinidog roi sicrwydd i reolwyr tir ledled Cymru na fyddant yn cael eu cosbi naill ai'n ariannol nac o ran cymhwysedd ar gyfer y cynllun am wneud gwaith adfer mawndiroedd drwy'r mecanweithiau sydd ar gael ar hyn o bryd?