Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 15 Chwefror 2023.
Nid wyf yn hollol siŵr sut rydych chi'n disgwyl i mi wneud i fferm fod yn rhan o brosiect peilot. Credwch fi pan ddywedaf fod yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion wedi ceisio'n galed iawn—[Torri ar draws.] Fe geisiodd yr asiantaeth yn galed iawn i gael ffermydd i fod yn rhan o gyfnod cyntaf y prosiect peilot, ac yn anffodus nid ydym wedi cael unrhyw un i gymryd rhan yn yr ail ran. Ond mae dweud nad ydym wedi ceisio yn hurt. Mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion wedi gwneud llawer iawn o waith i geisio cael rhai o'r ffermydd i fod yn rhan o'r prosiect peilot.
Rwyf wedi mynychu ffermydd pan fo profion TB yn cael eu cynnal—wrth gwrs fy mod. Rwy'n gweld hynny'n rhan bendant o fy rôl. Yn anffodus, ni fyddaf yn gallu mynychu eich fferm yr wythnos nesaf, ond wrth gwrs, mae hynny'n rhywbeth rwyf wedi'i wneud. Rwy'n deall y gofid wrth aros am brofion yn llwyr—gallaf ddychmygu'r pryder—ac wrth gwrs, tra byddwch yn aros am y canlyniadau. Dyna pam ein bod wedi ymrwymo i ddileu TB. Ond mae gwir angen inni weithio gyda'n gilydd. Nid yw ond beio Llywodraeth Cymru yn dderbyniol. Ni fyddwn i byth ond yn beio ffermwyr.