Y Cynllun Brys ar gyfer Bysiau

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 15 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 3:26, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, fel rwyf wedi'i egluro sawl gwaith bellach, nid wyf mewn sefyllfa i roi unrhyw sicrwydd y tu hwnt i’r tri mis ychwanegol rydym wedi gallu eu negodi. Ond rwy’n mawr obeithio y byddwn yn gallu llunio cynllun pontio, ond mewn gwirionedd, yr hyn sydd ei angen arnom yw cyllid ychwanegol inni allu cynnal y rhwydwaith bysiau wrth i nifer y teithwyr ddychwelyd a thra byddwn yn symud i’n system fysiau reoledig newydd.