Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 15 Chwefror 2023.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw, ac yn enwedig Mick, yn amlwg, sydd â chysylltiadau personol mor gryf ag Wcráin? Hoffwn ddweud nad ydym byth am weld yr 'U' honno eto. Mae gennych wlad o'r enw Wcráin. Ni ddylai fod yn rhaid i chi byth gael dogfen a fyddai'n dweud 'anhysbys' neu 'heb gartref sefydlog'. Mae gennych wlad a chanddi ffiniau a gydnabyddir yn rhyngwladol, a dyna pam fod y Deyrnas Unedig wedi cydsefyll â phobl Wcráin, a dyna pam y daeth Arlywydd Wcráin yma yr wythnos diwethaf, wrth ymweld â gweddill Ewrop, i ddangos cryfder y gefnogaeth a'r gwerthfawrogiad o bobl Wcráin yn eu hawr gyfyng. Wrth inni agosáu at flwyddyn ers dechrau'r ymosodiad, wythnos i ddydd Gwener, roedd llawer ohonom yn meddwl na fyddem byth yn ei weld yn para mor hir, ac yn y pen draw, y byddai rhyw synnwyr cyffredin yn tawelu Putin ac y byddai’n parchu'r ffiniau rhyngwladol hynny, ac yn y pen draw, y gallai Wcráin barhau i fod yn genedl-wladwriaeth—yn genedl-wladwriaeth falch.
Ond mae’r sylwadau a wnaeth Alun Davies ynglŷn â 'chreulondeb’, ‘haelioni’, a hefyd, byddwn yn ychwanegu 'undod’, yn nodweddiadol o’r hyn y dylai’r ddadl hon ymwneud ag ef. Tynnodd Mark Isherwood sylw yn ei sylwadau agoriadol at y sylwadau ynghylch y creulondeb, y marwolaethau, y dinistr i eiddo. Clywsom am blant yn gorfod mynd o wlad Wcráin i wersylloedd—gwersylloedd. Rydym yn sôn am Ewrop. I lawer o bobl yn yr oes fodern, pan soniwn am Wcráin, maent yn meddwl am luniau o bencampwriaethau pêl-droed Ewropeaidd yn cael eu chwarae yno, a mynd yno ar wyliau. A hefyd, o safbwynt amaethyddol, mae gennyf ddealltwriaeth dda o’r potensial amaethyddol sylweddol sydd gan Wcráin, fel y crybwyllodd Tom Giffard am y cyflenwad bwyd sy'n cael ei ddarparu. Cyfeiriodd Sam Rowlands at y cymorth cymunedol sy'n amlwg wedi’i gynnig ledled y wlad hon, a hefyd yng ngweddill y DU a gweddill y byd hefyd, sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr pan feddyliwch am symudiad torfol pobl—mae 7 miliwn, 8 miliwn, 10 miliwn a mwy o bobl yn symud ac yn cael eu dadleoli oherwydd y gwrthdaro hwn. Gadewch inni beidio ag anghofio, nid ydym wedi gweld unrhyw beth o'r fath ers yr ail ryfel byd. Byddai rhai ohonom sydd â chof digon hir yn cofio creulondeb argyfwng y Balcanau a’r hyn a ddigwyddodd yno, ac roedd hynny'n enghraifft ofnadwy a damniol o fethiant diplomyddiaeth, ond mae hyn ar raddfa hollol wahanol.
Ac mae wedi'i ddweud yn y Siambr hon nad yw pob Rwsiad yn euog. Maent yn wladwriaeth sydd wedi'i chaethiwo gan Putin a'i ffrindiau. Nid oes a wnelo hyn â bod yn erbyn pobl Rwsia. Mae hyn yn ymwneud â'r gyfundrefn y mae Putin yn ei harwain a'r unbennaeth y mae'n ei gweithredu o fewn ffiniau Rwsia. A soniodd Heledd Fychan am yr enghraifft ddigalon honno yn Llanilltud Fawr a'r dudalen Facebook. Mae'n rhaid inni bob amser gael gwared ar y lefel honno o gasineb a’r lefel honno o wenwyn sy’n bodoli ym meddyliau ychydig iawn o bobl, a threchu hynny gyda’r ysbryd hael rydym wedi’i ddangos fel gwleidyddion, ond hefyd fel gwlad gyfan. Ond hefyd, ymateb y Gweinidog. Rwy'n talu teyrnged i’r hyn y mae’r Gweinidog wedi’i wneud yn ei rôl ym maes cyfiawnder cymdeithasol, ond gan dynnu sylw hefyd—y pwynt a wnaeth Janet Finch-Saunders—at yr angen am dai, y gwn fod y Gweinidog yn ymwybodol ohono, ond oherwydd bod y rhyfel hwn yn parhau, yn anffodus, a bydd pobl wedi'u dadleoli am amser hirach nag yr hoffai unrhyw un ohonom ei weld, bydd hynny gyda ni am flynyddoedd lawer i ddod, os nad degawdau i ddod. A phan fydd pobl yn meddwl am addysg ac ymgartrefu mewn cymunedau, mae angen iddynt allu galw lle'n gartref, gan y bydd hynny'n hollbwysig er mwyn dod â chydbwysedd yn ôl i fywydau pobl.
Felly, mae fy mhwyntiau heddiw yn ymwneud â'r creulondeb—rydym wedi clywed am hynny yn y ddadl hon; yr haelioni—rydym wedi clywed am hynny yn y ddadl hon heddiw, haelioni pobl Cymru a Phrydain; ac yn anad dim, yr undod o ran sut rydym oll yn cydsefyll gyda phobl Wcráin wrth inni nesáu at 12 mis ers dechrau'r ymosodiad. Mae pob un ohonom am i’r rhyfel ddod i ben, ond drwy gydsefyll gyda phobl Wcráin a dweud mai ein hymrwymiad cadarn yw ein bod am weld ffiniau rhyngwladol Wcráin yn cael eu parchu, fe wnawn lwyddo, fe wnawn ennill, ac yn y pen draw, bydd gan bobl Wcráin le i'w alw'n gartref: cenedl-wladwriaeth Wcráin. Diolch.