Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 15 Chwefror 2023.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n bleser cael cynnig y ddadl bwysig hon y prynhawn yma. Yn anffodus, nid yw gwneud plentyndod yn gyfartal yn rhywbeth rydym wedi rhagori arno. Mae Erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn nodi bod
'rhaid i Wladwriaethau sy'n Barti roi mesurau effeithiol a phriodol ar waith, gan gynnwys drwy gymorth gan gymheiriaid, i alluogi pobl ag anableddau i gael a chynnal annibyniaeth lawn, gallu corfforol, meddyliol, cymdeithasol a galwedigaethol llawn, a chynhwysiant a chyfranogiad llawn ym mhob agwedd ar fywyd. I'r perwyl hwnnw, mae'n rhaid i Wladwriaethau sy'n Barti drefnu, cryfhau ac ymestyn gwasanaethau a rhaglenni sefydlu ac adsefydlu cynhwysfawr, yn enwedig ym meysydd iechyd, cyflogaeth, addysg a gwasanaethau cymdeithasol, yn y fath fodd fel bod y gwasanaethau a'r rhaglenni hyn:
'a) Yn dechrau ar y cam cynharaf posibl, ac yn seiliedig ar asesiad amlddisgyblaethol o anghenion a chryfderau unigol;
'b) Yn cefnogi cyfranogiad a chynhwysiant yn y gymuned a phob agwedd ar gymdeithas, yn wirfoddol, ac ar gael i bobl ag anableddau mor agos â phosibl at eu cymunedau eu hunain, gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig.
'2. Mae'n rhaid i Wladwriaethau sy'n Barti hybu datblygiad hyfforddiant cychwynnol a pharhaus ar gyfer gweithwyr proffesiynol a staff sy'n gweithio mewn gwasanaethau sefydlu ac adsefydlu.
'3. Mae'n rhaid i Wladwriaethau sy'n Barti hybu argaeledd dyfeisiau a thechnolegau cynorthwyol, a'r wybodaeth a'r defnydd ohonynt, a gynlluniwyd ar gyfer pobl ag anableddau, fel y maent yn ymwneud â sefydlu ac adsefydlu'.
Er gwaethaf y ddyletswydd amlwg hon i ddarparu cymorth sefydlu, nid yw rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynnig unrhyw gymorth o gwbl. Yn ôl Cŵn Tywys Cymru, mae'r ddarpariaeth o hyfforddiant sefylu yn wael iawn mewn rhannau helaeth o Gymru. Credant fod yna oddeutu 2,000 o blant a phobl ifanc â nam ar eu golwg a fyddai’n elwa o hyfforddiant o’r fath.
Ond am beth y soniwn yma? Beth yw hyfforddiant sefydlu? Yn y bôn, mae’n ffordd o ddysgu'r sgiliau y mae pob un ohonom yn eu datblygu’n gynnar i blant a phobl ifanc sydd â nam ar eu golwg. Mae plentyn neu unigolyn ifanc sy’n gallu gweld fel arfer yn datblygu ystod o sgiliau annibyniaeth wrth iddynt dyfu i fyny gyda’u teulu. Mae'r sgiliau hyn yn cynnwys gallu symud o gwmpas heb frifo'u hunain a gallu cyrraedd lle maent yn dymuno bod yn ddiogel. Mae sgiliau annibyniaeth yn cynnwys sgiliau ymarferol a chymdeithasol fel ymolchi, gwisgo, bwyta, yfed, siopa, coginio a gwneud ffrindiau. Mae plant a phobl ifanc sy'n gallu gweld yn dysgu'r sgiliau hyn o fewn eu teuluoedd, yn bennaf drwy wylio aelodau eraill o'r teulu. Ni all plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg wylio a dysgu yn yr un ffordd â phlentyn sy'n gallu gweld. O ganlyniad, efallai na fydd llawer o sgiliau sylfaenol allweddol yn cael eu dysgu heb gymorth a chefnogaeth ychwanegol. Mae hyfforddiant sefydlu'n darparu ffyrdd amgen o ddysgu, gan ddefnyddio synhwyrau eraill y plentyn neu'r unigolyn ifanc, sef eu synhwyrau cyffwrdd, clywed, blasu, arogli a chydbwysedd. Mae'r dull hwn yn datblygu sgiliau symud cynnar plentyn ac yn ddefnyddiol i blant ag ystod o olwg, neu blant heb olwg o gwbl. Mae sefydlu yn y blynyddoedd cynnar hefyd yn helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth plant o'u cyrff eu hunain, yn ogystal ag ymwybyddiaeth y plentyn o'r gofod o'u cwmpas pan fyddant yn llonydd neu'n symud a'r defnydd o'u synhwyrau. Mae arbenigwyr sefydlu'n gweithio'n agos gyda rhieni, staff ysgol a gweithwyr proffesiynol eraill, yn ogystal ag ar sail un i un gyda'r plentyn. Maent yn gymwys i addysgu strategaethau a sgiliau ymarferol i sicrhau cymaint â phosibl o annibyniaeth, ac maent yn gweithio mewn lleoliadau prif ffrwd ac arbenigol, yn ogystal ag yn y cartref ac allan yn y gymuned. Mae hyfforddiant sefydlu'n darparu cymaint â phosibl o annibyniaeth bersonol i blentyn neu unigolyn ifanc a chanddynt anghenion gweledol, yn ogystal â helpu i'w paratoi ar gyfer camu ymlaen fel oedolyn ifanc annibynnol i goleg, prifysgol, prentisiaethau neu waith.
Fis Hydref diwethaf, cefais y pleser o gyfarfod ag Amy, menyw ifanc sydd wedi elwa o gymorth sefydlu gan Cŵn Tywys Cymru. Dywedodd Amy wrthyf fod y cymorth a gafodd wedi rhoi hyder iddi fynd i’r brifysgol, a'i bod hyd yn oed yn cynllunio taith i America, breuddwyd gydol oes na fyddai wedi bod yn bosibl heb gymorth sefydlu. Mae sefydlu'n galluogi’r bobl ifanc hyn i wneud y pethau y mae pob un ohonom yn eu cymryd yn ganiataol, pethau y mae pob un ohonom yn eu gwneud heb feddwl ddwywaith, pethau y dylai pawb allu eu gwneud, boed yn fynd allan i chwarae gyda ffrindiau neu fynd i deithio yn eich arddegau hwyr.
Heb gymorth sefydlu i blant a phobl ifanc Cymru, sut y gallwn gael unrhyw obaith o greu Cymru gyfartal? Os nad oes gennym gyfle cyfartal, nid oes gennym gydraddoldeb. Yn anffodus i blant a phobl ifanc â nam ar eu golwg yng Nghymru, mae ble rydych yn byw yn cael effaith enfawr ar eich cyfleoedd. Mae loteri cod post ar gyfer gwasanaethau sefydlu. Mae’r ddarpariaeth yn brin ar draws gogledd Cymru, lle mae un arbenigwr yn gwasanaethu ardal fawr iawn. Yng Ngheredigion, Conwy, Merthyr Tudful a sir Benfro, nid oes gwasanaeth o gwbl. Dim ond 11.4 o arbenigwyr sefydlu cyfwerth ag amser llawn sydd ar gael ledled Cymru, sy’n llawer is na’r hyn sydd ei angen i ddarparu o leiaf un arbenigwr fesul 100 o blant â nam ar eu golwg. Fel y mae ein cynnig yn galw amdano, mae angen inni roi cynllun gweithlu ar waith ar fyrder, ymrwymiad strategol i sicrhau ateb hirdymor. Wrth inni betruso ac oedi, mae plant dall a rhannol ddall yn colli cymorth arbenigol hanfodol i'w galluogi i gyflawni eu potensial llawn. Gall gweinidogion ddod o hyd i ychydig filiynau o bunnoedd i lawr cefn soffa Trysorlys Cymru i achub maes awyr sy’n methu, ac eto, nid ydynt yn gwneud unrhyw beth i gefnogi miloedd o bobl ifanc â nam ar eu golwg yng Nghymru.
Rwyf hefyd yn siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi cynnig gwelliant i'n cynnig i drosglwyddo'r baich i lywodraeth leol. Ers blynyddoedd, mae Gweinidogion Cymru wedi cael gwybod bod darpariaeth sefydlu arbenigol wedi bod yn ddiffygiol, ac eto, ni chymerwyd unrhyw gamau, ni roddwyd unrhyw gynlluniau ar waith. Ni allwn adael cynllunio cenedlaethol i awdurdodau lleol. Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol yn y pen draw am sicrhau bod cynghorau’n cydymffurfio â’u dyletswyddau, yn ogystal â sicrhau bod gan Gymru’r gweithlu sydd ei angen i ddarparu cymorth sefydlu i’n pobl ifanc. Rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i sefyll dros bobl ifanc â nam ar eu golwg drwy gefnogi ein cynnig heddiw a gwrthod gwelliant y Llywodraeth.
Gyda’r cynllun cywir ar gyfer y gweithlu ar waith a digon o arbenigwyr sefydlu wedi’u cyflogi i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg, gallwn wneud plentyndod yn gyfartal. Drwy gael gwared ar rwystrau—nad ydym ni, sydd heb nam ar ein golwg yn eu gweld, yn eironig ddigon—gallwn sicrhau bod pob plentyn â nam ar eu golwg yng Nghymru yn cael cyfle cyfartal ac yn cael ffynnu. Diolch yn fawr.