7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Hyfforddiant sefydlu ar gyfer plant â nam ar eu golwg

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 15 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 5:35, 15 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Drwy weithredu'r Ddeddf, rydym wedi nodi hawliau a chyfrifoldebau clir a diamwys mewn perthynas â gofal cymdeithasol a materion cysylltiedig. Mae hynny'n cynnwys awdurdodau lleol yn ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau pan fyddant yn cyflawni eu swyddogaethau. Mae'r disgwyliadau a nodir yn y fframwaith statudol o dan y Ddeddf hefyd yn cynnwys dyletswyddau awdurdodau lleol i sefydlu a chynnal cofrestr o bobl â nam ar eu golwg, a darparu gwasanaethau sefydlu iddynt. Mae'r dyletswyddau hyn yn berthnasol i bawb—plant yn ogystal ag oedolion. 

Er mwyn helpu i ddeall y sefyllfa mewn perthynas ag oedolion, ariannodd Llywodraeth Cymru Gyngor y Deillion Cymru i gwmpasu ac ystyried y gwasanaethau a'r gefnogaeth sydd eu hangen yn y sector hwn, ac fe wnaethant ymgysylltu â rhanddeiliaid ledled Cymru i ystyried gwelliannau i wasanaethau. Roedd yr adroddiad terfynol yn pwysleisio'r angen am gynlluniau lleol a chenedlaethol gyda'r nod o ddarparu hyfforddiant i swyddogion adsefydlu newydd yng Nghymru, yn ogystal â chefnogi swyddogion presennol drwy becynnau hyfforddiant datblygu proffesiynol.

Yn dilyn hyn, ym mis Mai 2022, cyfarfu'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol â Fforwm Golwg Cymru i drafod rhai o'r materion sy'n ymwneud â darparu cymorth adsefydlu a sefydlu ledled Cymru. Ers y cyfarfod hwn, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi parhau i ymgysylltu â chynrychiolwyr Cŵn Tywys Cymru i geisio deall mwy am rai o'r heriau sy'n bodoli o ran mynediad at y math hwn o gymorth i blant a'u teuluoedd yma yng Nghymru, gan glymu'r gwaith hwn wrth y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud mewn perthynas â gwasanaethau oedolion.

O'r gwaith hwn, rydym yn cydnabod, mewn rhai achosion, y gall mynediad at hyfforddiant sefydlu fod yn hanfodol i alluogi plentyn i ddatblygu sgiliau symudedd personol, symud o gwmpas a byw'n annibynnol. Mae swyddogion sefydlu'n gweithio gyda'r plentyn, ond maent hefyd yn gweithio gyda'r teulu estynedig i'w cefnogi a dysgu sgiliau iddynt er mwyn eu galluogi i gynorthwyo'r plentyn yn effeithiol i ddysgu sgiliau bywyd allweddol, drwy wrando a chyffwrdd.

Rydym yn gwybod bod y ddarpariaeth o arbenigwyr sefydlu yn amrywio ledled Cymru, gyda rhai o ardaloedd awdurdodau lleol yn cael gwell mynediad at y gwasanaeth hwn nag eraill. Deallwn hefyd, fel nifer o rai eraill yng Nghymru, fod y gwasanaethau hyn wedi cael eu heffeithio'n sylweddol gan y pandemig. Yn wir, deallaf fod Cŵn Tywys Cymru wedi bod yn rhoi ychydig o gymorth i ardaloedd heb lawer o fynediad, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth y maent wedi gallu ei chynnig hyd yma.

Felly, gan ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad, a thrafodaethau pellach ar lefel swyddogol, roedd llythyr a anfonwyd gan y Dirprwy Weinidog at Fforwm Golwg Cymru fis Tachwedd diwethaf yn nodi y byddai Llywodraeth Cymru yn awyddus i hwyluso ymgysylltiad pellach â chynrychiolwyr y fforwm i nodi ffyrdd o ddatblygu gwelliannau ym maes sefydlu. Credwn ei bod yn bwysig, i adlewyrchu ysbryd y ddadl hon, fod y gwaith hwnnw'n cynnwys ystyriaeth i anghenion hyfforddiant plant a phobl ifanc, a sut orau i ddiwallu'r rhain. Ond nid wyf yn credu ei bod hi'n ddoeth gwahanu cynlluniau'r gweithlu oddi wrth asesiad o angen, na mynd â'r swyddogaeth o ddatblygu'r cynlluniau hyn oddi wrth y rhai sydd â chyfrifoldeb a phrofiad ymarferol ar lawr gwlad o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn fy ngwelliannau i'r cynnig a gyflwynwyd.

Wrth gloi, rwyf wedi siarad yn bennaf am rôl gofal cymdeithasol, sefydlu ac adsefydlu, ond mae gan wasanaethau iechyd rôl bwysig i'w chwarae hefyd. Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn cyfeirio pobl sydd â nam ar y synhwyrau at ofal cymdeithasol ar y cyfle cyntaf i'w galluogi i gael mynediad at wasanaethau a chymorth pan fydd eu hangen arnynt. Ond mae hefyd yn hanfodol eu bod yn chwarae rhan mewn triniaeth a gofal ar gyfer colled o'r fath.

Mae gwasanaethau gofal iechyd y golwg a'r clyw GIG Cymru yn cael eu darparu'n wahanol i weddill y DU. Mae gennym bwyslais llawer cryfach ar sicrhau bod mwy o driniaeth a gofal ar gael o fewn y gymuned, ac mae ein gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol yn seiliedig ar egwyddorion gofal iechyd darbodus. Mae hyn yn rhoi pwyslais newydd ar yr hyn a fyddai'n gweithio orau i gleifion ac yn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o'r holl adnoddau sydd ar gael ar draws gofal sylfaenol ac eilaidd. Mae Cymru'n parhau i fod yn arweinydd ar ddarparu gwasanaethau optometreg ac awdioleg, ac mae gwledydd datganoledig eraill y DU yn dilyn ein hesiampl. Mae'r Alban a Gogledd Iwerddon eisoes yn efelychu'r gwaith rydym wedi arloesi ynddo, ac mae Lloegr nawr yn gofyn am gyngor Llywodraeth Cymru. Maent yn arbennig o awyddus i ddysgu am ddatblygiadau mewn ardaloedd clwstwr sylfaenol.

Dechreuais drwy gydnabod ein bod yn ymwybodol iawn o'r heriau yn y maes hwn, ac rwyf am orffen drwy ei gwneud yn glir y byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, gyda'r nod o hyrwyddo gwasanaethau sefydlu cynhwysfawr i gefnogi plant yng Nghymru. Diolch yn fawr.