1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Chwefror 2023.
1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu pobl ifanc i gael gwaith yn Ne Clwyd? OQ59159
Llywydd, bywiogrwydd parhaus yr economi yn y gogledd-ddwyrain yw'r cymorth gorau un i bobl ifanc sy'n dechrau gweithio yn etholaeth yr Aelod. I'r rhai ymhellach o'r farchnad lafur, mae'r warant i bobl ifanc yn cynnig amrywiaeth o gymorth i baratoi pobl ifanc ar gyfer byd gwaith, a'u gosod ynddo.
Diolch, Prif Weinidog. Mae'r warant i bobl ifanc wir wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn y flwyddyn y mae wedi bod yn gweithredu, ar ôl dod o hyd i waith i 11,000 o bobl ledled Cymru. Ac mae'r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru yn parhau i fod yn is na chyfartaledd cyfradd ddiweithdra'r DU hefyd. Beth all cyflogwyr ei wneud i ddenu gweithlu'r dyfodol, ochr yn ochr, yn amlwg, â'r amrywiaeth o gynlluniau rhagorol Llywodraeth Lafur Cymru fel y warant i bobl ifanc?
Wel, Llywydd, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan yn ddiweddar mewn cyfres o gyfarfodydd â chyflogwyr mewn gwahanol rannau o Gymru, gan gynnwys yn y gogledd. Ac nid prinder gwaith yw'r stori allan yna, fel y gwyddoch, erbyn hyn, ond prinder gweithwyr. Mae 330,000 yn llai o bobl yn y gweithlu ar draws y Deyrnas Unedig nag yr oedd yn 2016. Ac mae hynny'n golygu bod cyflogwyr yn chwilio am bobl ifanc yn arbennig, ac mae natur y drafodaeth wedi bod am y mathau o bethau y mae pobl ifanc yn eu dweud wrth gyflogwyr eu bod nhw'n chwilio amdano. Ac maen nhw'n chwilio am lwybr a datblygiad gyrfaol, maen nhw'n chwilio am hyblygrwydd yn y gweithle, maen nhw'n chwilio am y gwerthoedd y maen nhw'n gweld cyflogwr yn eu cynnig—ymrwymiad i waith teg, ymrwymiad i gyfrifoldebau hinsawdd. Felly, rwy'n credu bod gwersi, yn eglur iawn, gan bobl ifanc eu hunain, am y math o bethau y byddan nhw'n eu hystyried yn ddeniadol mewn gweithle lle maen nhw'n adnodd prin.
Daw cyfrifoldeb y Llywodraeth, Llywydd, o wneud yn siŵr bod y bobl ifanc hynny nad ydyn nhw'n barod eto i fentro i'r gweithle yn cael yr holl gymorth y gallant ei gael drwy'r warant i bobl ifanc, pa un a yw hynny'n lle hyfforddi, yn datblygu sgiliau, yn lleoliadau a gynorthwyir yn y gweithle, fel y gallwn wneud yn siŵr bod yr holl bobl ifanc hynny yng Nghymru, sydd eisiau gwneud eu cyfraniad at ein heconomi, wedi'u paratoi'n llawn i wneud hynny.
Rwy'n ddiolchgar i Ken Skates am gyflwyno cwestiwn pwysig heddiw. Hoffwn adleisio'r sylwadau a wnaed ganddo, a gennych chithau hefyd, Prif Weinidog, o ran y warant i bobl ifanc, rhywbeth yr ydym ni, ar yr ochrau hyn i'r meinciau, wedi bod yn ei gefnogi. Wrth gwrs, fel y gwnaethoch chi ei amlinellu, mae'n gynnig sydd yno i bawb dan 25 oed—y cynnig o waith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth. Ac, yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, cefais y fraint o ymuno â'r is-ganghellor a'i thîm ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam i glywed am yr holl waith da sy'n cael ei wneud yn yr ysgol fusnes yn arbennig yn y brifysgol, ac i glywed am eu perthynas gyda diwydiant, a chyda busnesau yn Wrecsam a De Clwyd, ac yng ngogledd Cymru fel rhanbarth. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i gydnabod pwysigrwydd y berthynas honno rhwng addysg uwch a busnes a diwydiannau yn y gogledd, ac yng Nghymru yn ei chyfanrwydd, a sut ydych chi'n credu y gellir adeiladu ar y berthynas bwysig honno i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y cyfle o gyflogaeth yn fy rhanbarth i yn y gogledd?
Wel, Llywydd, diolch i Sam Rowlands am hynna ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt y mae'n ei wneud, ac nid addysg uwch yn unig, ond addysg bellach hefyd, ac mae'r gogledd yn arbennig o wyn ei byd, rwy'n credu, o ran ansawdd yr addysg bellach sy'n cael ei darparu i bobl ifanc yn y rhanbarthau hynny.
Rydyn ni'n gwybod bod profiad y pandemig yn golygu bod gan hyd yn oed bobl ifanc sydd wedi mynychu addysg uwch synnwyr o fod angen magu hyder yn ôl er mwyn bod yn y gweithle. Ac mae'n ddiddorol bod nifer o'r cynlluniau sy'n rhedeg o dan gylch gwaith y warant i bobl ifanc yn cymryd pobl ifanc sydd eisoes wedi graddio o dan eu hadain er mwyn rhoi'r cychwyn hwnnw iddyn nhw. Ac mae'r berthynas rhwng darparwyr addysg bellach ac uwch a byd gwaith, rwy'n credu, yn sylfaenol bwysig o ran gwneud yn siŵr bod y bobl ifanc hynny sydd angen y cam ychwanegol hwnnw ar eu taith yn gynnar, i wneud yn iawn am rai o'r profiadau y byddan nhw wedi gorfod mynd drwyddyn nhw yn ystod y cyfnod diweddar, bod y cymorth ychwanegol hwnnw ar gael iddyn nhw, ac yn cael ei gefnogi o'r ddwy ochr.