Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 28 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:49, 28 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Roedd penderfyniad eich Llywodraeth i dynnu Betsi allan o fesurau arbennig yn ymgais amlwg i daflu llwch i lygaid pobl. Ddwy flynedd yn ôl, a chydag etholiad ar y gorwel, roeddech chi eisiau rhoi'r argraff eich bod chi wedi llywio'r bwrdd iechyd trwy ddiwygiad sylweddol, eich bod chi wedi gwneud eich gwaith. Roedd yn rhy gynnar. Profwyd ei fod yn fyrbwyll, a dangosodd ddiffyg crebwyll ac arweinyddiaeth. Mewn cyfweliad gyda'r BBC neithiwr, dywedodd y Gweinidog iechyd, 'Ni allaf i fod yno'n cyflawni'r llawdriniaethau fy hun.' Roedd yn ymateb gwamal, a dweud y lleiaf. Nid oes unrhyw ddisgwyliad i'r Gweinidog wisgo sgrybs, ond dylem ni o leiaf ddisgwyl i Weinidogion ddangos yr arweinyddiaeth angenrheidiol i droi'r bwrdd iechyd o gwmpas. Y bore yma, dywedodd y Gweinidog:

'Nid fy nghyfrifoldeb i oedd cael gafael ar bethau, nhw oedd wrth y llyw.'

A fydd adeg fyth pan fydd y Gweinidog â'r cyfrifoldeb terfynol? Neu ai dim ond y bwrdd y gellir ei gyflogi a'i ddiswyddo?