1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 28 Chwefror 2023.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Prif Weinidog, cafodd rhai pobl eu synnu gan y newyddion bod Llywodraeth Cymru yn gwneud Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig ddoe, ond nid oedd yn annisgwyl, o ystyried adroddiad yr archwilydd cyffredinol o'r wythnos flaenorol. Roedd gweithredoedd y Gweinidog iechyd yn gofyn am ymddiswyddiadau aelodau annibynnol y bwrdd, o ystyried cynnwys yr adroddiad hwnnw, yn syndod, oherwydd yn yr adroddiad mae'n sôn am gydlyniant aelodau annibynnol y bwrdd yn eu gallu i ddwyn yr aelodau gweithredol i gyfrif a'u rhwystredigaeth at anallu'r aelodau gweithredol i ymgysylltu'n llawn. Mae prif weithredwr neu brif swyddog gweithredu'r cyngor iechyd cymuned i fyny yn y fan honno wedi dweud ei fod wedi cael ei synnu o weld y bu'n rhaid i aelodau annibynnol y bwrdd ymddiswyddo. Pam y bu'n rhaid i aelodau annibynnol y bwrdd, gan gofio'r geiriau yn yr adroddiad am y cydlyniant a'r gwaith yr oedden nhw'n ei wneud fel aelodau annibynnol o'r bwrdd, ymddiswyddo?
Wel, nid wyf i'n credu, fy hun, Llywydd, y gallai fod wedi bod yn syndod i unrhyw un a oedd yn weddol gyfarwydd â gweithrediad y bwrdd. Rwy'n edrych nawr ar y llythyr a anfonwyd gan Janet Finch-Saunders, aelod o grŵp arweinydd yr wrthblaid ei hun, at y Gweinidog pan alwodd am gael gwared ar y bwrdd yn gyfan gwbl, gan gynnwys aelodau annibynnol y canfyddir nad ydyn nhw'n gallu cyflawni'r hyn sy'n ofynnol trwy ymyraethau mewnol. Os oedd yn amlwg i Aelod Ceidwadol lleol bod angen cael gwared ar aelodau annibynnol, rwy'n ei chael hi'n anodd dychmygu ei fod yn newyddion syfrdanol i unrhyw un arall yn y gogledd. Yr hyn a wnaeth y Gweinidog oedd gwneud asesiad o'r hyn yr oedd yr archwilydd cyffredinol wedi ei ddweud, yn ogystal â ffynonellau eraill o wybodaeth a ddaeth i'r casgliad bod y perthnasoedd a oedd wedi torri o fewn y bwrdd yn eglur, yn barhaus, yn ddwfn ac yn anhydrin ac nad oedd modd trwsio perthnasoedd gwaith. Dyna'r sail y gwnaeth y Gweinidog ei phenderfyniad arni.
Y pwynt yr oeddwn i'n ei wneud am y mesurau arbennig, Prif Weinidog, oedd y byddai trigolion yn y gogledd, o gofio mai dim ond yn ddiweddar y cafodd y bwrdd iechyd ei dynnu allan o fesurau arbennig, yn cael eu synnu, yn ddealladwy, ei fod yn dychwelyd i fesurau arbennig ar ôl bod mewn mesurau arbennig am chwe blynedd. Roedd aelodau annibynnol y bwrdd, yn ôl geiriau adroddiad yr archwilydd cyffredinol, yn gweithio mewn ffordd gydlynol i ddwyn y weithrediaeth i gyfrif. Nawr, rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders, yr Aelod dros Aberconwy, ac rwy'n siŵr, drwy ei rhyngweithio, ei bod wedi ffurfio barn, ond nid yw'r sylwadau gan y Gweinidog iechyd, yn dweud bod yn rhaid i'r aelodau annibynnol hyn ymddiswyddo, yn gyson â'r dystiolaeth a oedd gan yr archwilydd cyffredinol yn ei adroddiad. Y pwynt yr wyf i'n ei wneud i chi yw, drwy gydol yr adroddiad hwnnw, nodwyd bod yr aelodau gweithredol yn ddiffygiol yn eu gwaith a'u cyfrifoldebau, ac, mewn gwirionedd, roedd y dadleuon a'r trafodaethau a gynhaliwyd o fewn y bwrdd, yn aml iawn, wrth draed y ffaith fod yr aelodau gweithredol hynny yn anwybodus, nid ar draws y materion yr oedd ganddyn nhw gyfrifoldeb gweithredol amdanyn nhw, ac eto mae pob un o'r unigolion hynny yn dal yn ei swydd. Felly, oni allwch chi weld lle mae'r gallu i ddeall rhesymeg mynnu bod yr aelodau annibynnol yn ymddiswyddo—? Ond mae'r aelodau gweithredol, sy'n cael eu beirniadu yr holl ffordd drwy'r adroddiad hwn—yr holl ffordd drwy'r adroddiad hwn—yn dal yn eu swyddi.
Rwy'n deall nifer o'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud, a'r hyn yr wyf i'n credu y mae angen iddo ei wneud yw caniatáu i'r stori barhau i ddatblygu. Yr hyn a welsoch chi ddoe oedd y gyfres gyntaf o fesurau y mae'r Gweinidog wedi eu cymryd. Ceir beirniadaethau gwirioneddol iawn o aelodau gweithredol a bydd angen rhoi sylw i'r rheini hefyd. Ni ddylid cymryd y ffaith na chymerwyd y camau hynny ddoe fel pe bai'n golygu na fydd unrhyw gamau yn cael eu cymryd o gwbl. Dim ond bod yn rhaid gwneud pethau mewn ffordd sy'n parchu hawliau cyfreithiol pobl ac mewn ffordd a fyddai'n sefyll i fyny i graffu allanol. Fodd bynnag, mae'n rhaid i'r bwrdd weithredu fel cyfanwaith cydlynol, ac ni allwch, rwy'n credu, wahanu'n synhwyrol cyfrifoldebau'r weithrediaeth a'r aelodau annibynnol. Pan fydd gennych adroddiadau o fethiant yn y cysylltiadau hynny, pan fyddwch chi'n darllen am y ffordd y mae ymddygiad a gweithredoedd y bwrdd eu hunain wedi dod yn rhan o'r broblem o ddarparu gwasanaethau iechyd yn y gogledd, yna mae camau i ymdrin â'r bwrdd cyfan, gan gynnwys ei aelodau annibynnol, nad ydyn nhw'n cael eu rhyddhau o fai mewn unrhyw ffordd gan adroddiad yr archwilydd cyffredinol, na chwaith gan wybodaeth arall o'r gogledd—. Man cychwyn oedd yr hyn a welsoch chi ddoe. Mae llawer iawn mwy i'w wneud.
Gyda'r pwynt am 'lawer iawn mwy i'w wneud', Prif Weinidog, beth yw'r weledigaeth ar gyfer meddylfryd Llywodraeth Cymru pan ddaw hi at ddarpariaeth iechyd yn y gogledd? Nid yw'n iawn. Nid yw'n deg i'r staff yn y bwrdd iechyd hwnnw, ac yn bwysig, i gleifion a phobl yn y gogledd sy'n dibynnu ar eu gofal sylfaenol ac acíwt sy'n cael ei ddarparu gan fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. A oes modd atgyfodi'r model presennol, ei ailfywiogi a'i ailsbarduno i ddarparu'r gofal iechyd hwnnw, neu ai meddylfryd Llywodraeth Cymru yw bod angen toriad llwyr, ac, yn y pen draw, dros y tymor canolig i'r hirdymor, o ystyried y dystiolaeth sydd wedi dod i'r amlwg hyd yma, bod angen i rywbeth hollol wahanol ddod i'r amlwg o ran darparu iechyd yn y gogledd?
Wel, Llywydd, y cam cyntaf yw penodi nifer fach o unigolion i gyflawni'r swyddogaethau cyfreithiol ac i sefydlogi'r sefydliad. Rydych chi'n gwybod bod cadeirydd wedi ei benodi a bydd tri aelod arall ochr yn ochr â'r cadeirydd, a'u gwaith yn y tymor byr yw sefydlogi'r sefydliad, i ganolbwyntio ar benodi prif weithredwr newydd.
Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth arweinydd yr wrthblaid yw hyn: rwy'n credu mai un o'r pethau yr ydym ni wedi ei ddysgu o'r profiad anodd o bryd i'w gilydd yn Betsi Cadwaladr, bwrdd, gyda llaw, sy'n parhau, drwy ei staff, i ddarparu triniaeth lwyddiannus i filoedd o gleifion bob un dydd, yw'r ddibyniaeth honno ar unigolion arwrol, y syniad y bydd cadeirydd newydd, ar ei ben neu ei phen ei hun, yn datrys problemau'r sefydliad, neu mai prif weithredwr newydd ar ei phen neu ei ben ei hun yw'r ateb—rwy'n credu ein bod ni wedi dysgu nad yw hwnnw'n ymateb digonol i'r ffordd y mae gwasanaethau dros boblogaeth mor amrywiol, gyda gwahaniaethau diwylliannol rhwng y gogledd-orllewin a'r gogledd-ddwyrain, y byddai ein dibyniaeth ar y syniad, pe gallech chi dim ond cael y person iawn y byddai hynny'n datrys y problemau a fu yno nawr dros gyfnod parhaus o amser, nad dyna, ar ei ben ei hun, yw'r ateb. Bydd angen rhywbeth sy'n fwy sylfaenol na hynny, a bydd y camau a gymerodd y Gweinidog ddoe a'r datganiad y bydd yn ei wneud yn ddiweddarach y prynhawn yma yn esbonio sut y bydd diwygiad mwy sylfaenol y sefydliad yn digwydd yn y dyfodol.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Mae Betsi Cadwaladr yn fwrdd iechyd sy'n methu. Mae'n methu cleifion ac mae'n methu staff. Daeth ymchwiliad Tawel Fan o hyd i restr o fethiannau dychrynllyd ac annerbyniol yng ngofal rhai o'r cleifion mwyaf agored i niwed, rhai â dementia, a adawyd i orwedd yn noeth ar y llawr. Nodwyd risgiau diogelwch cleifion, gyda sawl adroddiad beirniadol ar wasanaethau fasgwlaidd. Bu'n rhaid i wraig gŵr trychedig ei gario i'r tŷ bach ar ôl iddo gael ei anfon adref o'r ysbyty heb gynllun gofal. Ceir perthnasoedd gwaith sydd wedi torri, fel yr ydych chi newydd gyfeirio atyn nhw, Prif Weinidog, sy'n peryglu'n sylfaenol gallu'r bwrdd iechyd i ymdrin â'r heriau sylweddol y mae'n eu hwynebu—nid fy ngeiriau i, ond rhai'r archwilydd cyffredinol. Rwyf i wedi tynnu sylw at dri adroddiad yn unig, ond dim ond crib y rhewfryn yw hynny, fel yr ydych chi eich hun newydd ei awgrymu. Faint yn fwy o adroddiadau damniol ydych chi'n fodlon eu derbyn o dan eich goruchwyliaeth cyn i Weinidog iechyd Llafur gymryd cyfrifoldeb?
Wel, Llywydd, cymerodd y Gweinidog iechyd Llafur gyfrifoldeb ddoe, a cheir 60 munud i'r Aelodau ofyn cwestiynau i'r Gweinidog yn ddiweddarach y prynhawn yma.
Roedd penderfyniad eich Llywodraeth i dynnu Betsi allan o fesurau arbennig yn ymgais amlwg i daflu llwch i lygaid pobl. Ddwy flynedd yn ôl, a chydag etholiad ar y gorwel, roeddech chi eisiau rhoi'r argraff eich bod chi wedi llywio'r bwrdd iechyd trwy ddiwygiad sylweddol, eich bod chi wedi gwneud eich gwaith. Roedd yn rhy gynnar. Profwyd ei fod yn fyrbwyll, a dangosodd ddiffyg crebwyll ac arweinyddiaeth. Mewn cyfweliad gyda'r BBC neithiwr, dywedodd y Gweinidog iechyd, 'Ni allaf i fod yno'n cyflawni'r llawdriniaethau fy hun.' Roedd yn ymateb gwamal, a dweud y lleiaf. Nid oes unrhyw ddisgwyliad i'r Gweinidog wisgo sgrybs, ond dylem ni o leiaf ddisgwyl i Weinidogion ddangos yr arweinyddiaeth angenrheidiol i droi'r bwrdd iechyd o gwmpas. Y bore yma, dywedodd y Gweinidog:
'Nid fy nghyfrifoldeb i oedd cael gafael ar bethau, nhw oedd wrth y llyw.'
A fydd adeg fyth pan fydd y Gweinidog â'r cyfrifoldeb terfynol? Neu ai dim ond y bwrdd y gellir ei gyflogi a'i ddiswyddo?
Wel, o ystyried ei gyfraniad hyd yn hyn y prynhawn yma, rwy'n credu y bydd yr Aelod yn dymuno myfyrio ar ei ddefnydd o'r gair 'gwamal' yng nghyswllt cyfraniadau unrhyw un arall. Gadewch i mi ddweud wrtho nawr fy mod i'n gwrthod yn llwyr yr hyn yr wyf i'n ei ystyried yn gyhuddiad gwarthus bod y penderfyniadau a wnaed ym mis Tachwedd 2020 wedi'u hysgogi gan unrhyw beth heblaw'r cyngor a gafodd Llywodraeth Cymru gan y system dair ochrog yr ydym ni'n dibynnu arni. Daethpwyd i'r penderfyniad, ac mae'n benderfyniad gan Weinidogion, i dynnu'r bwrdd allan o fesurau arbennig oherwydd i ni gael ein cynghori mai dyna ddylem ni ei wneud gan yr archwilydd cyffredinol, gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a chan swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddarparu'r cyngor i Weinidogion. Dyna oedd sail y penderfyniad, ac rwy'n credu y dylai'r Aelod dynnu yn ôl yr hyn y mae wedi ei ddweud drwy sarhau, yn fy marn i, enw da'r cyrff hynny. Mae'n ddigon hapus i ni ddilyn eu cyngor pan fydd yn ei siwtio ef, a phan nad yw'n ei siwtio mae eisiau lladd ar gymhellion Gweinidogion Llywodraeth Cymru. Dylai wybod yn well.
Y King's Fund a oedd yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd ar lywodraethu, dyma sut y gwnaethon nhw ddisgrifio pethau yn ystod gaeaf 2020, pan wnaethoch chi benderfynu ei bod hi'n briodol tynnu'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig: fe welodd y gronfa ymddygiad gweithredol a oedd yn dirywio, gydag aelodau unigol o'r tîm gweithredol yn beirniadu ei gilydd i'r cadeirydd ac aelodau annibynnol, gan ddwysau pryderon aelodau annibynnol am gydlyniant y tîm gweithredol. Sut, ar sail y dyfarniad cytbwys hwnnw ar ran y King's Fund, a oedd yn gweithio gyda'r bwrdd ar y pryd, allech chi benderfynu ei bod hi'n iawn eu tynnu nhw allan o fesurau arbennig?
Mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Prif Weinidog, mae hyn yn rhan o batrwm ehangach, onid yw, o gamreolaeth drychinebus ar ran y Llywodraeth hon o ofal iechyd. Ac ar ôl 25 mlynedd o gyfrifoldeb am ddarparu gofal iechyd yng Nghymru, onid yw'n wir eich bod chi wedi rhedeg allan o syniadau? Rydych chi'n taflu arian at atebion byrdymor, plaster glynu, gydag enillion sy'n lleihau'n barhaus. A ydych chi'n barod i edrych ar adolygiad o'r bôn i'r brig a diwygio Betsi Cadwaladr, a ydych chi'n barod i ystyried yr opsiwn o chwalu'r bwrdd yn llwyr a chael gwahanol strwythur, fel y mae Plaid Cymru wedi ei hyrwyddo'n gyson, yn hytrach nac aildrefnu, unwaith eto, y cadeiriau cynfas ar long sy'n suddo?
Wel, Llywydd, cyhoeddwyd adroddiad y King's Fund ym mis Tachwedd 2022, nid ym mis Tachwedd 2020, pan wnaed y penderfyniad. Rwy'n cynghori'r Aelod i ddarllen yr hyn a ddywedwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain ar 6 Rhagfyr, pan wnaethon nhw ddweud mai problem GIG Cymru oedd y bloeddiwyd 'blaidd' yn rhy aml, gan gynnwys ganddyn nhw, ac rwy'n credu ei fod ef yn gwneud hynny eto heddiw. Mae GIG Cymru, bob un dydd, yn darparu triniaeth lwyddiannus. Gwn ei fod eisiau ysgwyd ei ben, ond dyma, yn syml, yw gwirionedd y mater. I'w etholwyr ef, i fy etholwyr i, ac i etholwyr pob Aelod arall yma, mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn darparu, bob un dydd, driniaeth effeithiol a ddarperir gan bobl ymroddedig sy'n mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn y gellid disgwyl iddyn nhw ei wneud. Dydyn ni ddim yn cael mwy allan o'r gwasanaeth iechyd nac yn rhoi sylw i'r heriau gwirioneddol iawn y mae'n eu hwynebu yn y gogledd ac mewn mannau eraill trwy beidio â chydnabod ei bod hi'n system sy'n parhau i lwyddo llawer mwy nag y mae'n methu. Lle mae angen gweithredu, fel yr oedd ddoe, fe wnaeth y Gweinidog gymryd y camau hynny, ac mae hi yma yn y Senedd y prynhawn yma i egluro i'r Aelodau ac i ateb cwestiynau pellach ynglŷn â pham roedd ei chamau yn angenrheidiol a'r hyn a fydd yn digwydd nawr.