Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 28 Chwefror 2023.
Wel, diolch i Mike Hedges am y cwestiwn pellach yna. Rwy'n credu bod y rhain yn faterion pwysig iawn sy'n haeddu cael eu trafod yn gyhoeddus yn fwy trylwyr a rheolaidd. Mae newyddion da, rwy'n credu, yn yr ymateb iddo: mae'r nodyn sydd gen i yn dweud wrthyf fod y defnydd o atrasin, hecsaclorobensin a methomyl eisoes wedi ei wahardd yn y Deyrnas Unedig ac yma yng Nghymru. Mae'r defnydd o rotenon bellach wedi'i gyfyngu i ymdrin â rhywogaethau pysgod ymledol yn unig, ac rwy'n credu bod hynny, mae'n debyg, yn cyfeirio at y cyfyng-gyngor sydd wrth wraidd y ddadl y mae Mike Hedges wedi ei hagor i ni y prynhawn yma, sef, er bod plaladdwyr yn gallu achosi niwed, weithiau ceir defnyddiau dilys iddyn nhw sy'n atal niwed mwy fyth, ac mae ymdrin â rhywogaethau ymledol yn un o'r ffyrdd y gall y plaladdwyr cemegol grymus hynny fod â defnydd buddiol o hyd.
Glyffosad yw'r plaladdwr mwyaf cyffredin a ddefnyddir o'r rhai y cyfeiriodd Mike Hedges atyn nhw. Hyd yma, rydyn ni wedi dilyn y rheolau sy'n cael eu defnyddio yn yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaeth yr Undeb Ewropeaidd ymestyn ei ganiatâd presennol ar gyfer defnyddio glyffosad am 12 mis arall ym mis Tachwedd y llynedd, a disgwylir y byddan nhw'n cyhoeddi cyngor newydd ar hynny cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Bydd hynny'n cyfrannu at gynllun gweithredu cenedlaethol newydd y Deyrnas Unedig ar gyfer defnydd cynaliadwy o blaladdwyr. Rydyn ni'n disgwyl hwnnw erbyn canol 2023.
Gall Cymru fynd ymhellach na'r cynllun hwnnw os na fyddwn yn fodlon â'i gwmpas, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt a wnaeth Mike Hedges tua diwedd ei gwestiwn atodol: yn y byd polisi sy'n ymwneud â phlaladdwyr, maen nhw'n sôn am dri gwahanol ddosbarth defnydd. Ceir amaethyddiaeth, ceir defnydd amatur—gallwch brynu glyffosad mewn unrhyw ganolfan arddio—ac yna ceir defnydd amwynder, y defnydd o blaladdwyr o'r fath gan awdurdodau lleol ac eraill. Dyna'r maes yr wyf i'n awyddus ein bod ni'n canolbwyntio arno. Nid wyf i'n credu bod dadl dros ddefnyddio'r math hwnnw o gemegyn, er enghraifft, ar gae chwarae ysgol, ond nid oes gennym ni lyfr rheolau yng Nghymru eto sy'n atal hynny rhag digwydd. Mae llawer iawn o waith da yn cael ei wneud i leihau'r defnydd o blaladdwyr yn y ffordd honno; ceir cyfleoedd yn y flwyddyn galendr hon i wneud hynny'n rhan fwy ffurfiol o'r system sydd gennym ni yng Nghymru.