1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 28 Chwefror 2023.
3. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r defnydd o blaladdwyr niweidiol? OQ59154
Llywydd, ein polisi yw lleihau, i'r lefel isaf bosibl, effaith plaladdwyr ar bobl, bywyd gwyllt, planhigion a'r amgylchedd ehangach. Bu gostyngiad cyson yn y defnydd o blaladdwyr amaethyddol yng Nghymru dros y cyfnod datganoli, ond mae mwy y gallwn ni, ac y byddwn ni'n ei wneud yn y dyfodol.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Mae pob plaladdwr cemegol o bosibl yn niweidiol i bobl a'r amgylchedd. Wrth gwrs, mae rhai yn waeth nag eraill, ond nid oes yr un ohonyn nhw'n gwbl ddiogel. Er bod pob plaladdwr wedi'i ddynodi i ladd plâu a phroblemau wedi'u targedu, yn anffodus effeithir ar lawer iawn mwy na'r targedau penodol hynny; mae llawer yn cael eu golchi i mewn i afonydd, gan greu problemau. Mae'r plaladdwyr gwaethaf yn cynnwys atrasin, hecsaclorobensen, glyffosad, methomyl a rotenon. Yn seiliedig ar ddata Sefydliad Iechyd y Byd, maen nhw'n arbennig o beryglus oherwydd biogasglu, dyfalbarhad mewn dŵr, pridd a gwaddodion, gwenwyndra i organebau dyfrol, a gwenwyndra i wenyn a'r ecosystem. Defnyddir glyffosad yn rheolaidd. A wnaiff y Prif Weinidog ystyried naill ai i wahardd y plaladdwyr y cyfeiriais atyn nhw neu awgrymu nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru?
Wel, diolch i Mike Hedges am y cwestiwn pellach yna. Rwy'n credu bod y rhain yn faterion pwysig iawn sy'n haeddu cael eu trafod yn gyhoeddus yn fwy trylwyr a rheolaidd. Mae newyddion da, rwy'n credu, yn yr ymateb iddo: mae'r nodyn sydd gen i yn dweud wrthyf fod y defnydd o atrasin, hecsaclorobensin a methomyl eisoes wedi ei wahardd yn y Deyrnas Unedig ac yma yng Nghymru. Mae'r defnydd o rotenon bellach wedi'i gyfyngu i ymdrin â rhywogaethau pysgod ymledol yn unig, ac rwy'n credu bod hynny, mae'n debyg, yn cyfeirio at y cyfyng-gyngor sydd wrth wraidd y ddadl y mae Mike Hedges wedi ei hagor i ni y prynhawn yma, sef, er bod plaladdwyr yn gallu achosi niwed, weithiau ceir defnyddiau dilys iddyn nhw sy'n atal niwed mwy fyth, ac mae ymdrin â rhywogaethau ymledol yn un o'r ffyrdd y gall y plaladdwyr cemegol grymus hynny fod â defnydd buddiol o hyd.
Glyffosad yw'r plaladdwr mwyaf cyffredin a ddefnyddir o'r rhai y cyfeiriodd Mike Hedges atyn nhw. Hyd yma, rydyn ni wedi dilyn y rheolau sy'n cael eu defnyddio yn yr Undeb Ewropeaidd. Fe wnaeth yr Undeb Ewropeaidd ymestyn ei ganiatâd presennol ar gyfer defnyddio glyffosad am 12 mis arall ym mis Tachwedd y llynedd, a disgwylir y byddan nhw'n cyhoeddi cyngor newydd ar hynny cyn diwedd y flwyddyn galendr hon. Bydd hynny'n cyfrannu at gynllun gweithredu cenedlaethol newydd y Deyrnas Unedig ar gyfer defnydd cynaliadwy o blaladdwyr. Rydyn ni'n disgwyl hwnnw erbyn canol 2023.
Gall Cymru fynd ymhellach na'r cynllun hwnnw os na fyddwn yn fodlon â'i gwmpas, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt a wnaeth Mike Hedges tua diwedd ei gwestiwn atodol: yn y byd polisi sy'n ymwneud â phlaladdwyr, maen nhw'n sôn am dri gwahanol ddosbarth defnydd. Ceir amaethyddiaeth, ceir defnydd amatur—gallwch brynu glyffosad mewn unrhyw ganolfan arddio—ac yna ceir defnydd amwynder, y defnydd o blaladdwyr o'r fath gan awdurdodau lleol ac eraill. Dyna'r maes yr wyf i'n awyddus ein bod ni'n canolbwyntio arno. Nid wyf i'n credu bod dadl dros ddefnyddio'r math hwnnw o gemegyn, er enghraifft, ar gae chwarae ysgol, ond nid oes gennym ni lyfr rheolau yng Nghymru eto sy'n atal hynny rhag digwydd. Mae llawer iawn o waith da yn cael ei wneud i leihau'r defnydd o blaladdwyr yn y ffordd honno; ceir cyfleoedd yn y flwyddyn galendr hon i wneud hynny'n rhan fwy ffurfiol o'r system sydd gennym ni yng Nghymru.
Rwy'n falch o glywed bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau'r defnydd o blaladdwyr niweidiol, yn enwedig pan fo bygythiad i iechyd pobl, ond gall gwyddoniaeth, technoleg ac arloesi gynnig yr ateb yma, a dyna pam cefais fy ngadael yn rhwystredig gan na roddwyd caniatâd i'r Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl). Gall y ddeddfwriaeth hon gynorthwyo ein cydnerthedd yn erbyn rhai o'r heriau mwyaf sylweddol sydd o'n blaenau, gan gynnwys amddiffyn planhigion a chnydau rhag plâu, clefydau a'r newid hinsawdd. Trwy gymryd yr hyn sy'n digwydd yn naturiol dros gannoedd o flynyddoedd, gall bridio manwl hwyluso'r broses mewn ffordd a reolir, ffordd foesegol a diogel, gan adeiladu'r cydnerthedd hwnnw mewn planhigion a chnydau a lleihau ein dibyniaeth ar blaladdwyr niweidiol. O ystyried hyn, a gaf i ofyn a fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i Gymru yn y maes hwn i sicrhau y gallwn adeiladu'r cydnerthedd hwnnw yn ein cnydau, gan ddefnyddio byd academaidd Cymru fel Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth? Diolch.
Diolch i Sam Kurtz am y cwestiwn.
Llywydd, mae'r Cynulliad Cenedlaethol, fel yr oedd ar y pryd, a'r Senedd, wedi mabwysiadu dull rhagofalus o ymdrin â'r mater o addasu planhigion yn enetig erioed; rwy'n credu ein bod ni'n iawn i wneud hynny. Rwy'n credu pe gallem ni fod yn sicr y byddai'n cael ei wneud yn y ffordd yr amlinellodd Sam Kurtz, byddai hynny'n fater gwahanol, ond ni allwn fod yn sicr, oherwydd mae'r rhain yn ffyrdd hanfodol a chynhenid arbrofol o ymyrryd â chyfansoddiad genetig planhigion a sylweddau eraill. Ein safbwynt ni fu na ddylem ni wneud hynny tan y profir yn sylfaenol bod y wyddoniaeth yn ddiogel. Rwy'n credu bod y Senedd wedi gwneud y penderfyniad cywir o ran gwrthod cydsyniad deddfwriaethol.