Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 28 Chwefror 2023.
Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Yn fy etholaeth i, mae cael gafael ar ddeintydd yn anodd dros ben, a hyd yn oed os cewch chi ddeintydd, gall yr amseroedd teithio i'r deintyddion hynny fod yn hir iawn. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog ystyried mewn gwirionedd dod â deintyddion symudol i ysgolion, fel y gallwn ni eu cael nhw yn yr ysgol, fel y gallan nhw gael yr archwiliadau sydd eu hangen arnyn nhw i sicrhau bod eu hiechyd y geg mewn cyflwr da, gan ein bod ni i gyd yn gwybod bod iechyd y geg da yn arwain at iechyd a llesiant cyffredinol da ein plant? Diolch.