Part of the debate – Senedd Cymru am 6:36 pm ar 28 Chwefror 2023.
Wel, yn dilyn cyfraniad John Griffiths, bydd o ddim yn dod fel syndod i’r un ohonoch chi fy mod i, a ni ar y meinciau yma, yn gwrthwynebu’r cynnig yma heddiw, gan, yn y broses, ypsetio fy nghyfaill newydd, Janet Finch-Saunders.
Mae'r Bil yma, fel cynifer o’r memoranda cydsyniad deddfwriaethol yr ydym wedi eu gweld dros y 18 mis diwethaf, yn tanseilio ein deddfwrfa cenedlaethol yma, ac, yn benodol felly, yn tanseilio polisïau Llywodraeth Cymru a’r Senedd yma ym maes polisi tai, ac mae o'n methu â mynd i'r afael â’r heriau mawr sydd yn wynebu'r sector tai cymdeithasol yng Nghymru.
Pwrpas datganoli, mor wan ag ydy o, ydy i roi i ni y grym i osod polisi mewn meysydd penodol yma yng Nghymru, megis iechyd, addysg, amgylchedd a thai. Ond os rhoddwn ni gydsyniad i'r memorandwm yma heddiw, yna mi fyddwn ni'n trosglwyddo rhan fach o’n grymoedd yn y maes tai yn ôl i San Steffan. Mae hyn, wrth gwrs, yn gwbl annerbyniol.
Yn ogystal â hyn, nid yw deddfwriaethau San Steffan, sydd wedi eu llunio i ateb anghenion Lloegr, megis yn y maes tai, yn ateb yr heriau sydd yn ein wynebu ni yma yng Nghymru. Mae gennym ni heriau gwahanol yma, ac mae’n rhaid i Gymru ymateb i'r heriau yma efo’n fframwaith polisi ein hun. Os nad ydyn ni'n gallu datrys y problemau sydd yma efo’r grymoedd cyfyng sydd gennym ni, yna yr ateb ydy mynnu mwy o rymoedd er mwyn mynd i'r afael â’r heriau hyn.
Un o’r pryderon sydd gen i ynghylch y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yma ydy’r ffaith bod yna dai cymdeithasol yng Nghymru sydd yn dod o dan reolaeth cymdeithasau tai yn Lloegr, a fydd yn atebol i ddeddfwriaethau San Steffan, yn hytrach nag yn atebol i ddeddfwriaeth Gymreig. Mae gofynion a safonau Cymru yn uwch na Lloegr—a llongyfarchiadau i Lywodraeth Cymru am sicrhau hynny—ond mae'n rhaid sicrhau bod pawb yma yng Nghymru yn medru disgwyl yr un safonau. Mae galluogi'r memorandwm yma heddiw am olygu y bydd rhai tai cymdeithasol yng Nghymru yn parhau i gyrraedd safonau gwahanol ac is. Dylai hynny ddim digwydd, ac mae'n rhaid cael cysondeb o ran ein disgwyliadau yng Nghymru.
Yn olaf, noder mai dyma’r bumed LCM sydd wedi cael ei gyflwyno ar y Bil yma. Ar bob un achlysur, ychydig iawn o gyfle yr ydym ni wedi ei gael i graffu ac i ymgynghori ar y Bil a’i effaith ar denantiaid sydd yn byw yng Nghymru. Mae hyn, wrth gwrs, yn gwbl annigonol. Mae’r ffaith bod yna bump LCM wedi bod yn dangos sut mae’r Bil arfaethedig yn newid ac yn addasu, a sut mae Aelodau etholedig San Steffan, ac yn wir datblygiadau maes tai yn Lloegr, yn medru dylanwadu ar y Bil, oherwydd eu Bil nhw ydy o. Ond does gennym ni fawr ddim llais yma. Mae o am effeithio ar fywydau dyddiol tenantiaid sydd yn byw yng Nghymru—pobl yr ydym ni yn eu cynrychioli—ond, eto, does gennym ni na nhw ddim dylanwad arno fo. Mae'r diffyg amser i graffu a deall deddfwriaeth arfaethedig yn iawn yn gwbl annerbyniol. Rwyf felly yn eich annog chi i bleidleisio yn erbyn yr LCM yma heddiw. Diolch.