Part of the debate – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 28 Chwefror 2023.
Diolch. Yn sicr, fe ofynnaf i'r Gweinidog roi rhywfaint o eglurder drwy ddatganiad ysgrifenedig. Rydych chi'n hollol iawn mai holl bwynt bod â'r polisi hwnnw o bresgripsiynau am ddim yw cadw pobl yn iach a gwneud yn siŵr bod y rhai sydd wedi'u cyflogi yn gallu aros mewn cyflogaeth. Os oes gennym yr anghyfartaledd hwn, rwy'n credu eich bod chi'n hollol iawn; dydych chi ddim eisiau gweld yr anghysondeb yna na loteri cod post, lle mae gennych chi rai ardaloedd yn codi tâl. Felly, yn sicr, fe ofynnaf i'r Gweinidog iechyd gyflwyno datganiad ysgrifenedig i egluro hynny.