2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 28 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:25, 28 Chwefror 2023

Gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â'r mater o godi tâl am ddelifro presgripsiynau gan fferyllfeydd? Mae'n gwbl resymol i godi tâl mewn sefyllfa lle dyw unigolyn ddim yn barod i drafferthu i fynd i gasglu presgripsiwn, ond dwi wedi cael cyswllt gan rai pobl sy'n byw yn fy rhanbarth i sydd oherwydd eu cyflwr meddygol yn methu mynd i nôl presgripsiwn ac wedi ffeindio nawr bod yna ofyn iddyn nhw dalu am hynny. Yn y lle cyntaf, dyw nifer ohonyn nhw ddim yn gallu fforddio gwneud hynny, a chanlyniad anochel hynny yw na fyddan nhw felly yn derbyn y feddyginiaeth sydd ei angen arnyn nhw. Mae hynny, wrth gwrs, yn tanseilio'r polisi rŷn ni i gyd yn falch ohono fe, bod presgripsiynau am ddim yng Nghymru. Felly dwi'n meddwl bod angen eglurder o gyfeiriad y Gweinidog ynglŷn â beth yw disgwyliad y Llywodraeth ar y fferyllfeydd: oes angen cefnogaeth naill ar y fferyllfeydd neu ar yr unigolion efallai sydd yn trio cael mynediad i'r presgripsiynau yma? A hefyd dwi'n meddwl bod angen gwell cysondeb ar draws Cymru, oherwydd mewn rhai ardaloedd maen nhw'n codi, ac mewn ardaloedd eraill dydyn nhw ddim.