Part of the debate – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 28 Chwefror 2023.
Dydw i ddim yn credu bod angen datganiad llafar. Rwy'n credu eich bod wedi gwneud y peth iawn yn llwyr. Roeddwn i'n ymwybodol o'r cyfarfod y bore 'ma. Yn amlwg bydd y data'n helpu, oherwydd yn sicr nid ydym wedi gweld nifer y defnyddwyr yn dychwelyd i wasanaethau bysiau ar ôl pandemig COVID fel yr oedden nhw cyn pandemig COVID. Felly, heb os nac oni bai, os cant y data, byddan nhw'n gallu gweld, ac os ydych chi'n dweud bod y data yno, yna rwy'n credu y bydd hynny'n eu galluogi i ystyried a ddylid adfer y gwasanaeth hwn cyn gynted â phosibl.