6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Uwchgyfeirio ac ymyrraeth bellach i wella ansawdd gwasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 28 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 3:45, 28 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ddoe ynghylch y mesurau eithriadol yr wyf i wedi eu cymryd i sefydlogi a chefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, rwyf eisiau egluro'r penderfyniadau rydw i wedi'u gwneud, pa gefnogaeth rwy'n ei rhoi ar waith a'r hyn yr wyf i'n disgwyl bydd yn digwydd yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

Nid penderfyniadau a gymerais yn ysgafn oedd y rhain. Yn gyntaf, rwyf am sicrhau'r bobl sy'n byw yn y gogledd y byddan nhw'n gallu defnyddio eu gwasanaethau iechyd lleol fel arfer. Bob dydd, mae miloedd o bobl ar draws y gogledd yn cael gwasanaeth ardderchog gan y GIG, ond mae diffyg cysondeb o ran ansawdd, diogelwch ac effeithlonrwydd, ac fe fydd cywiro hyn wrth wraidd y newidiadau fydd angen eu gwneud. Gwn fod gennym ni filoedd o weithwyr ymroddedig y bwrdd iechyd a allai fod yn bryderus ynghylch y datblygiadau hyn hefyd, ond hoffwn eu sicrhau nhw y bydd eu gwasanaethau a'u gweithgareddau o ddydd i ddydd yn parhau ac na fydd statws 'mesurau arbennig' yn effeithio ar unwaith arnyn nhw.

Yn 2020, gwnaethom y penderfyniad dadleuol i isgyfeirio Betsi allan o fesurau arbennig. Bydd llawer ohonoch yn dweud mai dyma'r penderfyniad anghywir i'w wneud, ac rydym wedi clywed rhai yn dweud eto heddiw ei fod yn benderfyniad gwleidyddol ac yn un a oedd yn rhy gynnar; nid felly y bu hi. Roedd sawl rheswm tu ôl i'n penderfyniad i isgyfeirio Betsi allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020. Fe wnaeth y bwrdd iechyd ymateb yn dda i heriau COVID, a chawsom nifer o adroddiadau oedd yn arwydd bod y bwrdd iechyd yn cymryd camau strategol cadarnhaol tuag at wella. Roeddem o'r farn y byddai penodi'r prif weithredwr newydd a'r cymorth ymyrraeth wedi'i dargedu a gafodd ei roi ar waith yn galluogi'r bwrdd i barhau i wneud y gwelliannau yr oeddem yn disgwyl eu gweld. Yn wir, roedd arweinyddiaeth y prif weithredwr newydd a datblygu model gweithredu newydd i gyd yn arwydd bod y sefydliad yn cymryd camau cadarnhaol ymlaen yn strategol.

Ond yn fwy diweddar, nid yw ymateb y bwrdd iechyd ar lawer o faterion wedi rhoi'r sicrwydd sydd ei angen, er gwaethaf yr adnoddau ariannol ychwanegol sylweddol sydd wedi eu darparu, ac mae ymweliadau dirybudd AGIC, yn ogystal â fy ymweliadau dirybudd fy hun, wedi dangos nad yw gwelliannau'n digwydd ar y cyflymder sydd ei angen. Mae gen i bryderon difrifol yn ymwneud â pherfformiad a llywodraethiant y bwrdd yn ogystal â phryderon ynghylch yr arweinyddiaeth a'r diwylliant yn y sefydliad. Roedd y disgrifiad o'r bwrdd yn 'gamweithredol' yn adroddiad diweddar Archwilio Cymru yn cynyddu'r pryderon hynny ymhellach. Mae angen i ni newid y diwylliant sefydliadol yn sylfaenol, ac fe gyhoeddais fy mhenderfyniad ddoe i roi'r bwrdd iechyd i mewn i fesurau arbennig. Wedi hynny rwyf wedi cymryd camau pellach i sicrhau sefydlogrwydd y bwrdd.

Daeth yn amlwg bod angen arweinyddiaeth a chyfeiriad newydd. Fel rhan o'r broses o'u rhoi mewn mesurau arbennig, rwyf wedi siarad â'r aelodau anweithredol ac o ganlyniad, mae'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, ac aelodau annibynnol wedi camu o'r neilltu. Mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud pethau'n iawn ac am y rhesymau iawn, a'n bod ni'n eu gwneud nhw gyda thosturi ac ar gyflymder. Rydw i wedi gwneud pedwar penodiad anweithredol uniongyrchol dros dro i'r bwrdd er mwyn sicrhau sefydlogrwydd, ac maen nhw'n ymuno ar unwaith. Bydd penodiadau pellach yn cael eu gwneud yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Mae gan y rhai a benodwyd brofiad helaeth ac eang, yn enwedig ym meysydd lle mae angen i'r bwrdd iechyd wella. Rwy'n falch o gyhoeddi y byddan nhw'n cael eu harwain gan Dyfed Edwards, cyn arweinydd Cyngor Gwynedd, a dirprwy gadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru. Bydd penodiadau uniongyrchol ychwanegol yn dilyn yn fuan. Byddan nhw'n ymgymryd â gofynion statudol cadeirydd y bwrdd ac aelodau annibynnol. Wrth wneud hynny, byddant yn adolygu'r trefniadau arweinyddiaeth weithredol a strwythurau a gwneud y penderfyniadau angenrheidiol ar gyfer gwelliannau, gan ystyried canfyddiadau adroddiad Archwilio Cymru. Bydd ymgyrch i recriwtio aelodau annibynnol newydd i'r bwrdd tu hwnt i'r cyfnod cychwynnol hwn o sefydlogi yn dechrau yn ddiweddarach eleni.

Rwyf hefyd o'r farn nad nawr yw'r amser i wneud newidiadau strwythurol. Mae'n bwysig canolbwyntio ar ansawdd a'r ddarpariaeth o wasanaethau, sydd angen gwelliant sylweddol a chyflym, ac felly nid oes gennyf unrhyw fwriad i dorri'r bwrdd iechyd yn sefydliadau llai, yn arbennig ar adeg pan ydym yn annog cydweithredu a chydweithio rhanbarthol, sydd ei angen i gefnogi canlyniadau clinigol gwell i gleifion. Byddai ad-drefnu'n amharu aruthrol ac yn tynnu sylw oddi ar yr angen i ganolbwyntio nawr ar ddarparu'r gwasanaeth gorau posib i bobl y gogledd.

Bydd trefniadau arbennig y mesurau yn cynnwys creu tîm ymyrraeth a chefnogi byrddau iechyd. Heddiw, gallaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynghylch penodi pedwar cynghorwr bwrdd iechyd. Y rhain yw: Mick Giannasi, Alan Brace, Dr Graham Shortland, Susan Aitkenhead a—mae'n ddrwg gen i, roedd pum penodiad—David Jenkins.