Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 28 Chwefror 2023.
Bydd y cynghorwyr yn cael eu contractio am chwe mis i ddechrau, gan ddechrau heddiw. Byddan nhw'n cefnogi'r bwrdd iechyd ar lywodraethiant y bwrdd ac ar faterion eraill sy'n gysylltiedig â mesurau arbennig. Bydd hyn yn cynnwys lefel o gefnogaeth bersonol i'r cadeirydd newydd a'r aelodau annibynnol ac i roi adborth lle bo'n briodol i'r bwrdd o drafodaethau ac arsylwadau. Yn ogystal, byddan nhw'n adrodd yn ffurfiol i mi fel Gweinidog mewn perthynas â'u hasesiad a'u barn am allu'r bwrdd i gyflawni a hefyd ynglŷn ag a oes angen unrhyw waith pellach i ddatblygu'r bwrdd i sicrhau bod ganddo drefniadau cyllid ac archwilio priodol. Byddwn ni hefyd yn penodi cymorth adnoddau dynol arbenigol i'r cadeirydd newydd a'r bwrdd i adolygu'r strwythur sefydliadol a'r portffolios a sicrhau ansawdd y systemau a'r prosesau sy'n sail iddynt, a darparu cefnogaeth i'r bwrdd yn ei chwe mis cyntaf.
Fel cynghorwyr annibynol, nid gwneud penderfyniadau gweithredol yw eu swyddogaeth ond dadansoddi ac asesu'r ffordd y mae'r bwrdd yn cyflawni ei benderfyniadau er mwyn cynorthwyo'r cadeirydd a'r bwrdd i gwrdd â disgwyliadau Llywodraeth Cymru. Bydd hyn hefyd yn golygu darparu eu hasesiad nhw o faterion, camau gweithredu angenrheidiol a chynnydd. Un o brif amcanion y bwrdd newydd fydd recriwtio prif weithredwr parhaol newydd ar gyfer y bwrdd iechyd. Bydd angen i'r bwrdd newydd benodi rhywun â phrofiad o droi sefydliad iechyd o gwmpas a rhywun sydd â'r pendantrwydd, y weledigaeth a'r sgiliau i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn cwrdd â'i botensial. Mae cynlluniau eisoes ar waith ynglŷn â'r apwyntiad allweddol hwn. Byddaf hefyd yn edrych i'r bwrdd i sicrhau bod y strwythurau a'r prosesau ar waith i yrru'r gwelliannau sydd eu hangen yn eu blaen.
Er y bydd mesurau arbennig yn berthnasol i'r sefydliad, hoffwn roi sicrwydd i'r cleifion a'u cymunedau a wasanaethir gan y bwrdd iechyd, yn ogystal â'r staff sy'n gweithio ar ei gyfer, y bydd gwasanaethau a gweithgareddau dydd i ddydd yn parhau yn ôl yr arfer, gan ganolbwyntio'n gynyddol ar ansawdd a diogelwch. Dyw hyn ddim yn adlewyrchiad ar staff gweithgar ac ymroddedig rheng-flaen y bwrdd iechyd, sy'n gweithio'n ddiflino i helpu cleifion a gwella eu bywydau. Dwi am ddweud eto, fel dwi wedi sawl gwaith o'r blaen, diolch o galon i holl aelodau staff y bwrdd iechyd am eu hymrwymiad a'u hymroddiad i helpu pobl. Dwi'n gobeithio y bydd y penderfyniad a wnaed ddoe yn mynd â ni ar y llwybr at fwrdd iechyd y mae pobl gogledd Cymru yn ei haeddu, y mae ganddyn nhw hyder ynddo ac yn gallu bod yn falch ohono.