Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 28 Chwefror 2023.
Wrth gwrs, rydym ni’n byw mewn gwlad o gymunedau: o Aberdeen i Aberystwyth, Cumbria i Gaerfyrddin, Cernyw i Gonwy, Belfast i Ben-y-bont ar Ogwr a Swydd Efrog i'r Wyddgrug. Wrth i ni agosáu at Ddydd Gŵyl Dewi, rydych chi’n cyfeirio at eich strategaethau traws-lywodraethol a'ch cynlluniau gweithredu ym maes cyfiawnder cymdeithasol a Chymraeg. Wrth siarad yma saith mlynedd yn ôl, nodais fod
'datblygu cymunedol ar sail asedau yn fudiad mawr a chynyddol sy’n ystyried pobl fel blociau adeiladu sylfaenol mewn datblygu cymunedol cynaliadwy.... Gan adeiladu ar sgiliau trigolion lleol, grym cymdeithasau lleol a chefnogaeth sefydliadau lleol...a manteisio ar gryfderau cymunedol presennol i adeiladu cymunedau cryfach ar gyfer y dyfodol.'
Ydych chi'n cydnabod hyn, ac os felly, pa gamau ymarferol ydych chi'n eu cymryd i roi llais, dewis, rheolaeth a phŵer go iawn i'r bobl yn ein cymunedau?
Wrth siarad yma chwe blynedd yn ôl, cyfeiriais at adroddiad 'Valuing place' gan yr Young Foundation gafodd ei ariannu gan grant Llywodraeth Cymru, sy’n seiliedig ar ymchwil gyda phobl yn Aberystwyth, Cei Connah a Phort Talbot, ac fe wnaeth ddarganfod y dylai sefydlu rhwydwaith lleol i helpu i annog, hyfforddi, mentora, hyfforddi a chysylltu pobl â'i gilydd sydd am weithredu'n lleol, beth bynnag fo'u set sgiliau neu adnodau, fod yn flaenoriaeth. Mae angen i ni ganiatáu datblygiad cadarnhaol lle sy'n gynhwysol a chyfranogol. Cyfeiriais wedyn at ddogfen 'Cymunedau yn Gyntaf—Camau Nesaf' gan Sefydliad Bevan, wnaeth ddarganfod nad oedd rhaglen £500 miliwn Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru yn lleihau prif gyfraddau tlodi yn y mwyafrif helaeth o gymunedau, a llai byth i Gymru gyfan, ac y dylai rhaglen newydd gael ei chydgynhyrchu gan gymunedau a gweithwyr proffesiynol ac na ddylai fod yn rhaglen o’r brig i lawr, h.y. gan awdurdodau lleol, y dylai fod yn seiliedig ar ddamcaniaeth glir o newid, gan adeiladu ar asedau pobl a chymunedau nid diffygion, ac y dylid arwain camau lleol gan sefydliadau sefydledig yn y gymuned sydd â hanes cryf o gyflawni ac sydd ag ymgysylltiad cymunedol sylweddol. Oedd Llywodraeth Cymru yn derbyn canfyddiadau'r rhain ac adroddiadau tebyg eraill, ac os felly, ble mae'r newid a sut mae hyn yn cael ei fonitro?
Sut ydych chi'n ymateb i ddatganiad Ymddiriedolaeth Carnegie, bod y dull gwladwriaeth-alluogi yn ymwneud â chydnabod y dylai
'llywodraeth, ochr yn ochr a sbarduno perfformiad gwasanaethau cyhoeddus, alluogi cymunedau i wneud yr hyn maen nhw'n ei wneud orau', ac mai cymunedau
'sydd yn y sefyllfa orau i ddod â chyfoeth o wybodaeth leol ac egni cyfunol i'r penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw'?
Pa ystyriaeth ydych chi wedi ei roi i bapur trafod Canolfan Cydweithredol Cymru mis Ionawr 2022, 'Cymunedau yn Creu Cartrefi', oedd yn dweud bod Cymru yn llusgo y tu ôl i genhedloedd eraill yn y DU mewn perthynas â hawliau perchnogaeth gymunedol, gan ychwanegu nad yw'r polisïau yng Nghymru yn cynnig yr un grymuso â chymunedau yn Lloegr neu, yn enwedig, yr Alban, gan eu bod naill ai'n canolbwyntio'n llwyr ar asedau a chyfleusterau sy'n eiddo i gyrff cyhoeddus neu'n golygu bod angen cynnwys corff cyhoeddus yn uniongyrchol i weithredu'r pŵer yn hytrach na chydgynhyrchu?
Pa ystyriaeth ydych chi wedi'i roi i adroddiad 'Ein Tir: Cymunedau a Defnydd Tir' y Sefydliad Materion Cymreig ym mis Chwefror 2022, wnaeth ddarganfod mai cymunedau Cymru yw'r lleiaf grymusol ym Mhrydain, ac fe ddywedodd grwpiau cymunedol yng Nghymru wrthynt am senario mympwyol, ddigalon, heb fawr ddim proses i gymunedau berchnogi asedau cyhoeddus neu breifat?
Mae'r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, sy'n cael ei hariannu trwy waddol loteri, yn cynnal rhaglen Buddsoddi'n Lleol mewn 13 cymuned leol ledled Cymru, gan gryfhau eu hardaloedd mewn ffyrdd mae cymunedau eu hunain yn eu hystyried yn dda, a galluogi grwpiau cymunedol i ddarparu seilwaith cymdeithasol lleol a chefnogi eu cymunedau. Fodd bynnag, yn ôl yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau mae pobl yng Nghymru yn teimlo'n gynyddol llai abl i ddylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar eu hardal leol. Wrth eich holi yma fis Hydref diwethaf, cyfeiriais at ymchwil gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau gyda grwpiau cymunedol ledled Cymru, oedd yn dangos eu bod nhw’n aml yn teimlo eu bod nhw’n cael eu hanwybyddu ac nad oeddent yn cael digon o adnoddau gan lywodraeth leol a llywodraeth genedlaethol. Pan ofynnais i chi ymateb i'w datganiad eu bod nhw’n credu bod cyfle mawr i Lywodraeth Cymru ddatblygu gwell cefnogaeth ar gyfer dulliau lleol hirdymor sy'n cael eu harwain gan gymunedau yng Nghymru, fe wnaethoch chi ateb eich bod chi wedi cael cyfarfod defnyddiol iawn gyda nhw yr wythnos flaenorol i siarad am bolisi cymunedol ac i siarad am ein cyrhaeddiad asedau cymunedol. Pa newidiadau ymarferol felly, os o gwbl, ydych chi wedi eu cyflwyno ers hynny?
Yn olaf, mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi buddsoddiad o £27 miliwn mewn cronfa cymunedau dros dair blynedd, gyda dros 100 o fentrau yn cael eu datblygu gan bobl leol, gyda'r nod o fynd i'r afael â thlodi cymunedol. Felly, yn olaf, pa gamau, os o gwbl, ydych chi'n eu cymryd i gefnogi prosiectau tebyg a ddatblygwyd gan bobl leol yng Nghymru lle gall pawb deimlo ymdeimlad o berchnogaeth dros iaith, diwylliant, perfformiad economaidd a lles cymdeithasol Cymru?