7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cymru: Cymuned o gymunedau

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 28 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 5:06, 28 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Mark Isherwood, ac, yn wir, mae'r datganiad hwn yn ymwneud â chymuned o gymunedau, yr ydym ni’n credu sy’n wir am Gymru, yn sicr, ym mhob ystyr, ac yn arbennig rwy'n credu mewn perthynas â'n hymrwymiad i wrando, dysgu a gweithio gyda'n cymunedau er mwyn cyflawni'r nodau a'r polisïau sydd wir yn diwallu anghenion ein pobl. Dyna pam, yn wir, y dechreuais y datganiad drwy gyfeirio at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, y saith nod llesiant, ond hefyd at y ffyrdd o weithio, wrth gwrs, o ran lles cenedlaethau'r dyfodol. Mae hyn yn gwbl berthnasol i'r pwyntiau rydych chi'n eu gwneud o ran ein hymrwymiad i ymgysylltu â chymunedau a'r rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau cyhoeddus, yn benodol, wrth ddatblygu hynny—. Rydych chi wedi annog ac arddel y dull cyd-gynhyrchu mor aml i wneud yn siŵr ein bod ni yn estyn allan i'n cymunedau i ymgysylltu â nhw.

Rydych chi'n gwybod ein bod ni’n datblygu polisi cymunedol i Gymru, ac rwy'n falch iawn, drwy'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus, fod rhai cynlluniau peilot bellach yn datblygu yn sir Benfro, Gwynedd ac Ynys Môn. A'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus—sydd, mewn gwirionedd, wrth gwrs, yn draws-lywodraethol iawn o ran eu cyfrifoldebau statudol a'u cysylltu, wrth gwrs, â deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol—sy'n gweld mewn gwirionedd er eu budd y gallant ymgysylltu â chymunedau ar y lefel agosaf a mwyaf lleol i sicrhau eu bod nhw’n gallu cael eu polisïau'n iawn ac yn unol â'u hamcanion.

Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni’n dysgu'r gwersi o'r holl adroddiadau hynny rydych chi wedi siarad amdanynt, gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, rwyf i wedi bod yn gweithio gyda nhw i sicrhau ein bod ni’n cael y mudiad ar draws y Llywodraeth ar gyfer polisi cymunedol, gan ddatblygu gyda fy nghydweithwyr y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. Gallwn ddysgu gwersi gan nid yn unig Cymunedau yn Gyntaf, ond yna ymgysylltu olynol drwy'r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, er mwyn sicrhau y gallwn ni symud ymlaen o ran y trafodaethau a'r dadleuon trosglwyddo asedau rydyn ni wedi eu cael yn gynhyrchiol iawn yn y Senedd hon.

Hoffwn ddweud yn olaf fy mod i'n credu bod ein rhaglen cyfleusterau cymunedol yn un o'r ffyrdd pwysicaf y gall Llywodraeth Cymru ariannu a chefnogi cyfleusterau cymunedol a grwpiau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru yn uniongyrchol. Rwy'n falch iawn y byddaf yn cyhoeddi rhywfaint mwy o ddyraniad o'r cyllid hwnnw yn fuan iawn, a fydd, yn fy marn i, o fudd i Aelodau ar draws y Siambr hon o ran yr effaith.

Yn olaf, rwyf am ddod â hyn yn ôl i'r ffaith bod hwn yn gyfle heddiw i gysylltu hyn â Dydd Gŵyl Dewi, a beth mae hynny'n ei olygu i ni, yn enwedig o ran 'Cymraeg 2050'. Rydyn ni'n cydnabod bod hyn yn ymwneud ag iaith, diwylliant ac rydyn ni mewn gwirionedd—. Nid yw’n ymwneud â buddsoddi mewn addysg Gymraeg yn unig, sef y £7 miliwn mae'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg yn ei roi i hynny, ond mae hefyd, mewn gwirionedd, yn ymwneud ag edrych ar ffyrdd y gallwn ni ymgorffori iaith yn ein cymunedau. Dyna pam mae 'Cymraeg 2050' mor bwysig, ac mae'n ymwneud â dyfodol bywiog i'n hiaith, fel sydd wedi’i nodi yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.