7. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cymru: Cymuned o gymunedau

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 28 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:09, 28 Chwefror 2023

Diolch, Weinidog, a Dydd Gŵyl Dewi hapus i bawb, pan ddaw yfory, hefyd. Yn anffodus, dyw e ddim yn ŵyl banc genedlaethol, fel y dylai fe fod, ond rydyn ni’n dal i obeithio’n fawr. Yn amlwg, mae Sam Kurtz yn cytuno—plîs, perswadiwch eich Llywodraeth chi yn y Deyrnas Unedig i ganiatáu inni gael un. Gobeithio, os bydd yna Lywodraeth arall yn sgil yr etholiad cyffredinol nesaf, byddan nhw’n caniatáu inni yma yng Nghymru gael gŵyl banc i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Rydych chi wedi nodi, wrth gwrs, y llu o bethau sydd yn digwydd o ran dathlu Dydd Gŵyl Dewi, ond mae’n rhaid inni gydnabod hefyd mai nifer o wirfoddolwyr sy’n gyrru hynny ar hyn o bryd, ac rydyn ni yn colli cyfleoedd ar y funud, cyfleoedd pwysig dwi’n credu, pe baem ni’n rhoi mwy o gefnogaeth ac yn hyrwyddo’r hyn sydd i’w gynnig, yn yr un modd ag y mae gwledydd eraill yn gallu manteisio ar wyliau cenedlaethol.

Dwi’n falch hefyd o weld y Gweinidog yn cyfeirio at Gymru fel cymuned o gymunedau—rhywbeth oedd yn ganolog, wrth gwrs, i weledigaeth Gwynfor Evans, ac mae gan Blaid Cymru weledigaeth o Gymru fel cymuned rhyng-gysylltiedig o gymunedau gwydn, llewyrchus, iach ac amgylcheddol gadarn, sy’n cynnwys sicrhau bod y cyfle i ddysgu a siarad yn y Gymraeg yn agored i bawb, pa bynnag eu hamgylchiadau.

Mae’n dda, felly, glywed amcanion y Llywodraeth o ran cydlynu’r gwaith cyfiawnder cymdeithasol gyda’r gwaith o hybu’r Gymraeg. Mae’n bwysig cydnabod bod hybu’r Gymraeg yn fater o gyfiawnder cymdeithasol, ac felly mae yna berthynas gref rhwng gwahanol bortffolios. Fodd bynnag, mae yna angen i weld targedau pendant yn mynd law yn llaw gyda’r amcanion hyn, ac y gwir ydy, fel y dangoswyd diwedd flwyddyn diwethaf gyda chanlyniadau’r cyfrifiad, fod amcanion 'Cymraeg 2050' ymhellach i ffwrdd rŵan nag yr oeddent pan y'u gosodwyd.

Am yr ail ddegawd yn olynol mae cyfran y siaradwyr Cymraeg wedi'i gostwng, gan gyrraedd y lefel isaf erioed o 17.8 y cant. Mae hyn yn gyfateb i bron i 24,000 yn llai o siaradwyr Cymraeg o'i gymharu â 10 mlynedd yn ôl, a cholled o 44,000, sy’n gyfatebol i boblogaeth Merthyr Tudful, ers 2001. Dylai hyn gael ei ystyried hefyd yng nghyd-destun y ffaith mai dim ond tua 20 y cant o’n plant ar hyn o bryd sy’n cael y cyfle i gael eu haddysgu’n llawn drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n anodd, felly, gweld sut all nod y Gweinidog o gael