9. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Gwaith Teg: Cynnydd Blynyddol a Blaenoriaethau

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 28 Chwefror 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 6:05, 28 Chwefror 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw. Fel cyn-athrawes, rwy'n croesawu yn arbennig eich sylw ynghylch y cwricwlwm newydd ac undebau yn y gweithle. Cysylltu dealltwriaeth o hawliau yn y gweithle â chanllawiau gyrfaol yw'r peth sylfaenol iawn i'w wneud, ac edrychaf ymlaen at ganlyniadau'r cynllun peilot maes o law.

Mae gen i ddau gwestiwn i chi heddiw. Yn gyntaf, nodaf eich sylwadau ynghylch y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol. Rwy'n siŵr y byddem ni i gyd yn cytuno ar yr angen brys i ehangu ein gweithlu gofal cymdeithasol, ac mae codi statws y proffesiwn hwnnw, yn enwedig drwy'r agenda gwaith teg, yn gwbl allweddol i hynny. Felly, a allwch chi ymhelaethu ychydig ar y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael am hyn, ac am y model o waith teg yr ydych chi'n awyddus i'w hyrwyddo y tu hwnt i ddarpariaeth y cyflog byw gwirioneddol?

Yn gysylltiedig â hyn, rwy'n credu bod argymhellion 46 a 47 ar olrhain cynnydd yn hanfodol. Mae mynediad at ddata o ansawdd da yn bwysig os ydym ni'n mynd i allu monitro darpariaeth a chyflymder y ddarpariaeth, a nodi a datrys unrhyw rwystrau. Rwy'n cymeradwyo Llywodraeth Cymru am wneud y newidiadau i'r dangosyddion cenedlaethol a awgrymwyd. Sut bydd y rhain yn cael eu defnyddio i lunio ac ysgogi perfformiad i sicrhau y gallwn ni ddarparu gwaith teg yn y sector gofal cymdeithasol?

Yn olaf, Dirprwy Weinidog, clywsom hefyd gan Weinidog yr economi yn gynharach heddiw ynghylch sut y bydd arloesedd yn cael ei ymwreiddio ym mhob rhan o'r Llywodraeth. Felly, byddwn yn croesawu eich myfyrdodau ar sut mae gwaith teg yn cyd-fynd â hyn yn unol â'r argymhelliad cyntaf un hwnnw bod hwn hefyd yn gyfrifoldeb traws-Lywodraethol. Sut gallwn ni ddefnyddio arloesedd fel ysgogiad i'n caniatáu i hyrwyddo a sicrhau gwaith teg yn well i ddinasyddion Cymru?