Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 28 Chwefror 2023.
Diolch. Yn 2018, sefydlodd Llywodraeth Cymru'r Comisiwn Gwaith Teg ar y pryd, a wnaeth nifer o argymhellion yn dilyn hynny yn ôl yn 2019. Ers hynny, mae'r byd a'r gwaith fel rydyn ni'n ei adnabod wedi newid, ond er gwaethaf yr heriau hyn, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ar argymhellion y comisiwn. Mae'n bwysig bod yn dryloyw ynglŷn â'r hyn rydyn ni wedi'i wneud hyd yma a dyna pam, i gyd-fynd â'r datganiad hwn, rwyf heddiw wedi cyhoeddi adroddiad cynnydd am y tro cyntaf. Ochr yn ochr â hyn, rwyf eisiau canolbwyntio ar feysydd allweddol o gynnydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Yn gyntaf, ein gwaith i hyrwyddo undebau llafur a gwerth bod yn rhan o undeb llafur i weithwyr, gweithleoedd a Chymru. Yn ail, y sylfeini yr ydym yn eu rhoi ar waith ar gyfer partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg mewn sectorau lle mae pryderon hirsefydlog sy'n cael eu cydnabod am amodau gwaith. Ac yn drydydd, y camau ymlaen yr ydyn ni wedi'u gweld ar fabwysiadu ac achredu cyflog byw gwirioneddol.
Mae ein gwaith i hyrwyddo undebau llafur ac undebaeth lafur yn cael ei ysgogi gan farn gadarn y Llywodraeth Cymru hon bod undebau llafur yn sylfaenol i waith teg. I weithwyr, credwn mai bod mewn undeb llafur yw'r ffordd orau o ddiogelu hawliau yn y gwaith, gwella cyflog, telerau ac amodau, a sicrhau bod llais gweithwyr yn cael ei glywed. I gyflogwyr, rydym yn credu bod undebau llafur yn bartneriaid dyfeisgar o ran nodi a datrys materion yn y gweithle, wrth wella iechyd a diogelwch, wrth gefnogi dysgu yn y gweithle, ac wrth alluogi ymgysylltu â gweithwyr effeithiol.
O ran Cymru, credwn fod undebau llafur yn ganolog i wead ein cenedl ac yn rym er lles. Byddwn ni'n parhau i godi ymwybyddiaeth o rôl undebau llafur, hyrwyddo manteision bod mewn undeb llafur, ac yn glir ar werth cyflogwyr ac undebau llafur yn cydweithio'n adeiladol a gyda pharch at ei gilydd. Rydym yn gwneud hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd, o'n negeseuon ynghylch Wythnos HeartUnions bythefnos yn ôl, trwy gyfrwng rhaglenni sydd wedi hen ennill eu plwyf a werthfawrogir fel Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, sy'n cefnogi sgiliau yn y gwaith, a thrwy ddatblygu mentrau newydd a chyffrous fel y cynllun treialu Undebau a Byd Gwaith.
Gan adeiladu ar ymgyrchoedd cynharach gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o hawliau a chyfrifoldebau yn y gweithle, mae'r prosiect undebau a byd gwaith wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth gymdeithasol ag undebau llafur, athrawon ac ysgolion. Gan weithio gyda TUC Cymru, bydd y prosiect yn cefnogi'r gwaith o ddarparu profiadau gyrfaoedd ac sy'n ymwneud â gwaith—CWRE—rhan annatod o'r Cwricwlwm i Gymru newydd. Drwy'r cynllun treialu, mae amrywiaeth o adnoddau ar gael i ysgolion uwchradd ledled Cymru, gyda'r nod o rymuso'r genhedlaeth nesaf o weithwyr a chyflogwyr ac entrepreneuriaid i gael gwell dealltwriaeth o hawliau cyflogaeth, rôl undebau llafur ac effaith llais ar y cyd wrth fynd i'r afael â materion yn y gweithle a thu hwnt.
Mae ein dull blaengar ni yn cydnabod y rôl ddilys ac angenrheidiol sydd gan undebau llafur. Mae hyn yn sefyll yn gwbl groes i'r hyn a welwn gan Lywodraeth y DU, sy'n cael ei grisialu yn eu Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) dinistriol, yr ydym yn gwrthwynebu ei effaith niweidiol. Yng Nghymru, mae gennym yn nodweddiadol ymhlith y cyfraddau uchaf o aelodaeth o undebau llafur o'u cymharu â gwledydd eraill y DU a rhanbarthau Lloegr, ac yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd y llynedd, yn 2021, cynyddodd cyfran y gweithwyr yng Nghymru a oedd yn aelodau o undebau llafur 3.7 pwynt canran i 35.6 y cant, sef y lefel uchaf ers 2014. Gostyngodd y ffigwr cyfatebol mewn gwledydd eraill o'r DU dros yr un cyfnod. Er bod hyn yn ymddangos yn drawiadol o'i gymharu â gweddill y DU, rydym yn cyferbynnu'n llai ffafriol yn erbyn arferion gorau rhyngwladol. Rwyf eisiau gweld gwelliant parhaus yn lefelau dwysedd undebau llafur, presenoldeb undebau llafur a darpariaeth undebau llafur yng Nghymru, a bydd y Llywodraeth hon yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi hyn.
Gan droi yn awr at y sylfeini rydym yn eu gosod ar gyfer partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg ym maes gofal cymdeithasol a manwerthu. Mae'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol yn enghraifft wych o'r gwahaniaeth y gall dull partneriaeth gymdeithasol ei wneud yn ymarferol. Fe'n cynghorwyd ni ar weithredu'r cyflog byw gwirioneddol, ac mae bellach yn mynd i'r afael ag amodau gwaith ehangach yn y sector. Gwn y bydd ein dull partneriaeth yn ein rhoi ar seiliau cadarnach wrth fynd i'r afael â rhai o'r heriau hynny yn yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Rydym wedi cymryd y cysyniad o'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ac wedi cymhwyso dull tebyg i'r sector manwerthu, gyda fforwm partneriaeth gymdeithasol yn dod â phartneriaid o bob rhan o'r sector penodol hwn ynghyd i ddatblygu'r cynllun gweithredu manwerthu. Cafodd drafft o'r cynllun ei drafod yng nghyfarfod diweddaraf y fforwm manwerthu yn gynharach heddiw ac rydym yn disgwyl cyhoeddi'r cynllun hwnnw yn yr wythnosau nesaf. Credwn y gellir defnyddio'r model hwn mewn sectorau eraill, ac er ein bod yn cydnabod nad yw'r dull hwn yn cyfateb i'r bargeinio ar y cyd sectoraidd a fyddai'n codi safonau'n gyson ac ar raddfa, mae fodd bynnag yn cynrychioli'r hyn sy'n bosibl trwy ein ysgogiadau a gall arwain at newid cadarnhaol a pharhaol. Yn bennaf, gall helpu i ddatblygu meincnodau ledled y sector a gall helpu i roi seiliau ar waith y gellir adeiladu arnynt, oherwydd, o'i gymharu â llawer o wledydd eraill Ewrop, mae bargeinio ar y cyd sectoraidd ledled y DU yn wan.
Y maes olaf yr wyf am adrodd arno heddiw yw'r cyflog byw gwirioneddol. Nid y cyflog byw gwirioneddol yw ffactor diffiniol gwaith teg, ond mae'n bwysig o ran darparu llinell sylfaen ar gyfer cyfradd bob awr sydd yn cyd-fynd â thalu costau byw sylfaenol. Mae gennym y nifer uchaf erioed o sefydliadau sydd wedi'u hachredu yn rhai cyflog byw gwirioneddol—bron i 500. Mae'r data diweddaraf ar gyfer 2021 yn dangos bod bron i 70 y cant o'r bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru yn ennill o leiaf y cyflog byw gwirioneddol, a'r mesur hwn yn gweld cynnydd cyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi dangos arweinyddiaeth wrth weithredu ein rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i gyflwyno'r cyflog byw gwirioneddol ym maes gofal cymdeithasol. Rydym wedi darparu £43 miliwn i awdurdodau lleol a byrddau iechyd y flwyddyn ariannol hon i ariannu codiad cyflog byw gwirioneddol, ac rydym wedi ymrwymo tua £70 miliwn yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Ond, fel arfer, mae mwy i'w wneud.
Felly wrth gloi, rwyf eisiau nodi rhai blaenoriaethau am y flwyddyn i ddod yn gryno. Byddwn ni'n gweithio gyda phartneriaid cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill i wella cyrhaeddiad ac effaith y contract economaidd a'r cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. Byddwn ni'n cefnogi'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) trwy ei gyfnod craffu deddfwriaethol ac yn datblygu'r canllawiau cysylltiedig i wneud y mwyaf o'i effaith ar wasanaethau cyhoeddus, caffael, gwaith teg a llesiant ehangach. Byddwn yn parhau i wneud yn gwbl glir i Lywodraeth y DU nad yw'r ras i'r gwaelod ar hawliau gweithwyr o fudd i weithwyr nac i Gymru. Ac er bod gwaith teg yn cwmpasu meysydd datganoledig a meysydd nad ydynt wedi'u datganoli sy'n effeithio ar yr hyn y gallwn ni ei wneud a sut y byddwn ni'n ei wneud, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio pob ysgogiad sydd gennym i hybu a galluogi gwaith teg. Felly, ar draws y blaenoriaethau hyn a blaenoriaethau eraill yn y flwyddyn i ddod, byddwn yn parhau i weithio ar y cyd i gael bargen well i weithwyr ac i Gymru. Diolch.