Part of the debate – Senedd Cymru am 5:54 pm ar 28 Chwefror 2023.
Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad ac am eich copi ymlaen llaw.
Fel bob amser, rwyf wedi fy siomi gan y naratif ideolegol sy'n dod gan Lywodraeth Cymru hon, yn enwedig yn eich sylwadau ynghylch y Bil lefelau gwasanaeth gofynnol. Oherwydd fel y gwyddoch chi, Dirprwy Weinidog, mae'r Sefydliad Llafur Rhyngwladol, y mae'r TUC yn tanysgrifio iddo, yn cefnogi lefelau gwasanaeth gofynnol mewn egwyddor yn ystod gweithredu ar ffurf streic. Er nad yw'n union yr un fath, mae deddfwriaeth gwasanaeth gofynnol yn Ffrainc, yr Almaen a gwledydd Ewropeaidd eraill. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod eich anhoffter o unrhyw ddeddfwriaeth sy'n ceisio sicrhau bod y nifer priodol o bobl sydd eu hangen i gefnogi diogelwch y cyhoedd yn ystod streiciau yn nwylo Gweinidogion etholedig ac atebol, gyda mynediad at y wybodaeth a'r data priodol, yn hytrach na'u rhoi i'r meistri pypedau undebau llafur sy'n rheoli llinynnau pwrs y Blaid Lafur.
Dirprwy Weinidog, byddwn i wedi meddwl y gallai eich datganiad heddiw fod wedi canolbwyntio ychydig yn fwy ar ddiffygion eich Llywodraeth eich hun, ac yn ymwneud â mwy o bethau yr ydych chi'n gyfrifol amdanyn nhw mewn gwirionedd. Rwy'n croesawu eich pwyslais ar y cyflog byw, ond cefais fy siomi o weld bod y panel cynghori amaethyddol wedi penderfynu yn erbyn dod â'r gyfradd isafswm cyflog is i ben ar gyfer y rhai hynny sydd dan 25. Mae hyn yn fy nharo i braidd yn hurt, wrth i chi sôn am waith teg a thâl teg, ond eto'n caniatáu gwahaniaethu o'r fath yn erbyn gweithwyr amaethyddol ifanc. Dirprwy Weinidog, mae'r cyfraddau o £4.81 yr awr ar gyfer pobl ifanc 16 i 17 oed, a £6.83 yr awr ar gyfer pobl rhwng 18 a 20 oed, yn gwbl groes i'r egwyddor o gyflog teg am waith teg. Mae plentyn 16 i 20 oed yn debygol o weithio yr un mor galed, ac mae'n debyg y bydd ganddo gymaint o sgiliau, â gweithiwr amaethyddol hŷn. Fel rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol, mae gan Gymru economi wledig sylweddol, ac os ydym ni am annog y genhedlaeth nesaf o weithwyr amaethyddol, mae angen i'r Llywodraeth hon fynd i'r afael o ddifrif â'r anghyfartaledd hwn. Pa esboniad allwch chi ei gynnig i'r Siambr am gadw'r cyflogau hyn i weithwyr amaethyddol dan 25 oed mor isel?
Yn eich datganiad, rydych yn sôn bod gennym y nifer uchaf erioed o sefydliadau sydd wedi'u hachredu yn rai cyflog byw gwirioneddol—bron i 500. Ond faint o undebau llafur sydd wedi cofrestru, Dirprwy Weinidog? Gallaf ddweud wrthych chi mai nifer yr undebau llafur achrededig yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i fod wedi'u hachredu yn rhai cyflog byw gwirioneddol yw dim. Nid yw'r un undeb llafur wedi cofrestru—dyna faint maen nhw'n cefnogi ac yn gwerthfawrogi'r cynllun achredu hwn yr ydych chi'n ei hyrwyddo. Ac fe fyddwn i'n gofyn, Dirprwy Weinidog, os allwch chi egluro pam nad yw undebau llafur yn trafferthu cofrestru yng Nghymru, a dim ond saith undeb sydd wedi yn Lloegr a'r Alban.
Y llynedd, soniais yn fy ymateb i'ch datganiad blynyddol eich bod wedi methu â gwneud unrhyw gyfeiriad o gwbl at waith teg i bobl anabl. Unwaith eto, dydych chi ddim wedi sôn am unrhyw gynnydd i leihau a chael gwared ar y rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu, ac nid ydych wedi sôn am unrhyw fentrau i helpu i gau'r bwlch cyflogaeth anabledd. Yn hytrach, rydych chi wedi achub ar y cyfle hwn i ymosod ar Lywodraeth y DU. Gyda hyn mewn golwg, rwyf eisiau pwysleisio pa mor bwysig yw hi fod Llywodraeth Cymru'n cydnabod y dylai gwaith teg fod i bawb, a thrwy beidio â darparu diweddariadau ar anghenion y gymuned anabl, mae'n eithaf digalon iddyn nhw. Mae pobl anabl yn wynebu rhai o'r rhwystrau mwyaf wrth gael gwaith teg, ac, yn wir, cyflog teg, am y sgiliau y gallan nhw eu cyfrannu i fusnesau. Ac felly, Dirprwy Weinidog, a fyddwch chi'n gwneud ymrwymiad i roi diweddariad ar sut mae'r Llywodraeth hon yn helpu pobl anabl i gael gwaith teg yn natganiad y flwyddyn nesaf?
Yn olaf, Dirprwy Weinidog, rwyf eisiau sôn am bobl ifanc a phrentisiaethau. Er bod gennym ni lawer o gyfleoedd am brentisiaethau—ac rwyf newydd ymweld â Choleg Caerdydd a'r Fro a Choleg y Cymoedd i glywed am y cyrsiau gwych maen nhw'n eu cynnig—mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n manteisio ar y prentisiaethau yn gostwng. Rydyn ni wedi sôn droeon yn y Siambr hon am sut mae busnesau yng Nghymru yn cael eu hatal gan brinder sgiliau, yn arbennig, sut nad oes gan bobl ifanc a graddedigion y sgiliau perthnasol sydd eu hangen ar gyfer busnesau. Ac fel y gwyddoch chi, mae cael y sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau yn caniatáu i weithwyr fod â mwy o gadernid, oherwydd eu bod nhw'n gallu cael swyddi sy'n talu mwy ac yn gallu dod o hyd i waith yn gynt os cawn nhw eu diswyddo, er enghraifft. Felly, Dirprwy Weinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i hyrwyddo prentisiaethau fel llwybr dilys i bobl ifanc gael swyddi sy'n talu'n dda ac sy'n rhoi boddhad sy'n bodloni'r meini prawf gwaith teg? Diolch.