Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 1 Mawrth 2023.
Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod Rhys am ofyn cwestiwn mor bwysig. Weinidog, yn ddiweddar gwrandewais ar bodlediad Cymunedau Mwy Diogel gyda swyddog ymgysylltu â'r gymuned Prevent Cyngor Caerdydd lle cafodd ideoleg 'incel' ei grybwyll. Yn bryderus, mae themâu 'incel' cyffredin fel hunangasineb a chwyno yn arwain, yn amlach na pheidio, at drais misogynistaidd a diraddio menywod, ac maent yn gysylltiedig ag annigonolrwydd canfyddedig wrth ffurfio pherthnasoedd rhywiol. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol fod yr ideoleg hon yn cael ei hachosi’n arbennig gan ddiffyg eithafol o hunan-barch, unigedd, gorbryder a phroblemau'n ymwneud â delwedd y corff, sy'n cael eu gwaethygu gan raglenni cyfryngau prif ffrwd fel Love Island, sy'n atgyfnerthu'r gred 'incel' y bydd menywod yn eu gwrthod yn awtomatig am nad oes ganddynt gyrff cyhyrog cyffelyb. O ran diogelwch cymunedol, mae dynion 'incel' yn fygythiad credadwy i gymunedau yn y DU. Yn ddiweddar, cafodd merch ei saethu yn Plymouth gan aelod 'incel', Jake Davison, ac mae eraill wedi’u harestio mewn perthynas â throseddau terfysgol yn gysylltiedig ag ymwneud ag 'incel'. Weinidog, pa asesiad y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud o'r mudiad 'incel' yng Nghymru, a pha sgyrsiau rydych wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg ac Addysg ynghylch yr angen i helpu i hyrwyddo delwedd corff gwell yn ysgolion Cymru ac i weithredu i helpu pobl ifanc i fod yn fwy gwydn mewn perthynas â materion sy'n ymwneud â delwedd y corff? Diolch.