Mercher, 1 Mawrth 2023
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Prynhawn da a chroeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yw'r eitem gyntaf. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Peredur Owen Griffiths.
1. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i helpu teuluoedd yn Nwyrain De Cymru sydd wedi mynd i ddyled? OQ59162
2. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd canlyniadau'r adolygiad ffyrdd yn ei chael ar hybu ffyniant a mynd i'r afael â thlodi yng ngogledd Cymru? OQ59168
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
3. Beth yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â'r prinder safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr ledled Cymru? OQ59178
4. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi gwneud ynglŷn ag effeithiolrwydd polisïau Llywodraeth Cymru i sicrhau diogelwch cymunedol yng Nghaerdydd? OQ59173
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar yr adroddiad am gasineb at fenywod a chamymddygiad rhywiol yn Heddlu Gogledd Cymru a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru? OQ59183
7. Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi trigolion Canol De Cymru sy'n wynebu tlodi tanwydd? OQ59172
8. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i ddarparu cefnogaeth ddigonol i ffoaduriaid o Wcráin? OQ59174
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf, a'r eitem nesaf yw—ac mae fy sgrin wedi rhewi. Cwestiynau—ie, diolch i chi am chwifio arnaf, Gwnsler Cyffredinol, eich cwestiynau chi ydynt—i'r...
1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynglŷn â'r camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gynorthwyo menywod a anwyd yn...
2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd ynghylch Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion...
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
3. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r costau sy'n gysylltiedig â datganoli cyfrifoldeb dros lysoedd a dedfrydu i Gymru? OQ59179
4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y broses dendro ar gyfer y rhaglen prentisiaeth gyfreithiol lefel 7? OQ59170
5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i'r Gweinidog Newid Hinsawdd cyn y penderfyniad i roi terfyn ar sawl prosiect ffordd mawr yng ngogledd Cymru? OQ59177
6. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â'i pholisi ynglŷn â hunanadnabod rhywedd yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i...
7. Pa drafodaethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith Llywodraeth y DU ynglŷn â sicrhau bod gan Gymru'r pwerau dros wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl...
8. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â datganoli pwerau dros fandiau treth incwm i Gymru? OQ59182
Symudwn yn awr at eitem 3, sef cwestiynau i Gomisiwn y Senedd, ac fe fydd y cyntaf yn cael ei ateb gan Joyce Watson, ond fe alwaf ar Peredur Owen Griffiths.
1. Beth mae'r Comisiwn yn ei wneud i sicrhau bod ystad y Senedd yn gwbl hygyrch i bobl anabl? OQ59165
2. Pa gynnydd mae'r Comisiwn wedi ei wneud o ran cyflawni argymhellion adroddiad y tasglu newyddion a gwybodaeth ddigidol? OQ59164
3. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch i ba raddau mae'n cwrdd a'i ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer y chweched Senedd? OQ59186
Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol. Galwaf ar Jack Sargeant.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cap prisiau newydd Ofgem ar drigolion yng Nghymru? TQ732
2. A wnaiff y Gweinidog roi datganiad yn sgil RCN Cymru yn gwrthod cynnig cyflog ychwanegol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23? TQ734
Diolch i'r Gweinidog am yr atebion. Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf heddiw gan Jenny Rathbone.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Lesley Griffiths. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Lesley Griffiths.
Rŷn ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, fe fyddwn ni'n symud yn syth i bleidlais. Dwi'n gweld tri Aelod yn gofyn i fi ganu'r gloch....
Rydyn ni'n mynd ymlaen nawr i'r ddadl fer. Mae'r ddadl fer y prynhawn yma gan John Griffiths.
Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chynnig i elusennau sy'n helpu pobl hŷn i reoli eu harian?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia