Diogelwch Cymunedol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 1 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:03, 1 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn fod y mater hwn wedi'i godi, oherwydd er nad yw plismona wedi’i ddatganoli, rwy'n hollol siŵr fod yr heddlu yr un mor bryderus â ninnau am y ffordd y mae safbwyntiau atgas yn gwneud ein pobl ifanc yn agored i ddelweddau niweidiol a safbwyntiau asgell dde eithafol. Ydy, mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn bwysig iawn i wrthsefyll y delweddau atgas a hunan-niweidiol y mae pobl ifanc yn agored iddynt, ond yn amlwg mae angen peth rheoleiddio ar yr hyn sy'n digwydd ar-lein. Roeddwn yn meddwl tybed a ydych chi wedi cael sgwrs â Llywodraeth y DU ynglŷn â'r oedi cyn gweithredu'r Bil diogelwch ar-lein a niwed cysylltiedig fel bod gennym rywbeth i atal pobl rhag lledaenu'r holl negeseuon atgas hyn ar-lein.