Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 1 Mawrth 2023.
Diolch yn fawr. Nid oes unrhyw le i gasineb at fenywod na chamymddygiad rhywiol yng ngwasanaeth yr heddlu. Mae'n hanfodol fod Heddlu Gogledd Cymru yn parhau â'u gwaith brys i nodi swyddogion nad ydynt yn cadw at y gwerthoedd y mae'r cyhoedd yn eu disgwyl, ac i roi camau pendant ar waith.