Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 1 Mawrth 2023.
Diolch yn fawr. Mae hwnnw'n gwestiwn mor bwysig i ni y prynhawn yma. Er nad yw plismona wedi'i ddatganoli—cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydyw—rydym yn ymgysylltu, fel y dywedwch chi, Mabon, ym mhob ffordd a allwn, i weithio gyda'r heddlu, i ddylanwadu ar y polisïau a'u cyflawniad, ac yn wir, i ariannu rhannau helaeth o'r ddarpariaeth diogelwch cymunedol yng Nghymru yn enwedig, ac yn ein hysgolion. Mae'n hanfodol fod ein heddlu'n dangos yr uniondeb a’r gwerthoedd y mae'r cyhoedd yn eu disgwyl ganddynt. Felly, rwy'n croesawu dull Heddlu Gogledd Cymru o weithredu'n fawr iawn. Maent wedi mabwysiadu ymagwedd dryloyw a phendant iawn tuag at y mater hwn, gan gydnabod yr angen i sicrhau nad oes lle i leiafrif o swyddogion nad ydynt yn cyrraedd y safonau uchel y mae'r cyhoedd yn eu disgwyl yn yr heddlu yng Nghymru.
A gaf fi ddweud ein bod wedi trafod hyn yn y bwrdd partneriaeth plismona, a gyd-gadeirir gennyf fi a'r Prif Weinidog? Fe wnaethom ei drafod ym mis Rhagfyr, a buom yn siarad am ymddiriedaeth mewn plismona, ac rydych wedi cyffwrdd â hynny wrth gwrs. Bydd hon yn eitem agenda sefydlog ar y bwrdd, oherwydd fe wnaeth arweinwyr plismona Cymru ymrwymo yn y cyfarfod hwnnw i sefyll yn erbyn ymddygiad amhriodol, gan sicrhau bod staff sydd wedi ymddwyn yn amhriodol yn cael eu nodi'n gyflym. Fel y bydd cyd-Aelodau'n gwybod ar draws y Siambr, mae pob heddlu ledled Cymru a Lloegr yn adolygu cofnodion eu holl staff ar frys, i weld a oes unrhyw achosion eraill y mae angen mynd i'r afael â hwy. Ac rwy'n falch iawn fod comisiynydd heddlu a throseddu gogledd Cymru a'r prif gwnstabl Amanda Blakeman wedi siarad am hyn yn gyhoeddus. Rhaid iddynt gael yr wybodaeth hon erbyn diwedd mis Mawrth. A gaf fi achub ar y cyfle i atgoffa cyd-Aelodau o'n llinell gymorth Byw Heb Ofn, gwasanaeth 24/7 am ddim i holl ddioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod?
Ac yn olaf, hoffwn ddweud bod y comisiynydd heddlu a throseddu Dafydd Llywelyn a minnau'n cyd-gadeirio'r bwrdd partneriaeth cenedlaethol ar gyfer cyflwyno cam nesaf ein strategaeth genedlaethol, i gryfhau ein hymagwedd tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'n gweithio'n weithredol iawn gyda'n heddluoedd, ein comisiynwyr heddlu a throseddu. Mae gennym ffrydiau gwaith, gan gynnwys aflonyddu yn y gweithle. Mae’r ffrwd waith aflonyddu yn y gweithle yn cael ei gyd-gadeirio gan Shavanah Taj o Gyngres Undebau Llafur Cymru a Mark Travis o Heddlu De Cymru. Rwy'n disgwyl y bydd yn arwain at argymhellion a chamau i fynd i'r afael â'r materion rydych chi wedi'u codi y prynhawn yma.