Diogelwch Cymunedol

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 1 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 1:58, 1 Mawrth 2023

Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Mae troseddu a chyfiawnder yn faterion sydd wedi'u cadw o fewn cyfrifoldebau Llywodraeth y DU, ond rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda'r heddlu a chyrff partner eraill i hyrwyddo diogelwch cymunedol ar draws Caerdydd a Chymru gyfan. Mae hyn yn cynnwys ein hymrwymiad i gyllido swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu i gadw ein strydoedd yn saff.