Cyngor Cyfreithiol i Weinidog

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 1 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:29, 1 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n sicr yn fodlon y bydd y rheoliadau'n addas i'r diben, ac y bydd unrhyw addasiadau sydd angen eu gwneud yn cael eu gwneud yn y ffordd briodol. Mae'r rheoliadau eu hunain yn darparu, yn amlwg, ar gyfer parhau â'r fframwaith cyfreithiol presennol yng Nghymru a Phrydain ar gyfer mewnforio anifeiliaid byw a chynhyrchion anifeiliaid, felly maent yn rheoliadau pwysig. Fe'u gwnaed ym mis Rhagfyr 2022. Fel y gwyddoch, gwnaeth eich pwyllgor nifer o argymhellion mewn perthynas â'r rheini. Ysgrifennais at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar 18 Ionawr 2023, ac eto ar 15 Chwefror 2023. Mae'r ohebiaeth yn gyhoeddus. Mae'n manylu ar y broses a fydd yn cael ei defnyddio wrth gywiro diffygion drafftio a'r defnydd o slipiau cywiro.