Datganoli Cyfrifoldeb dros Lysoedd a Dedfrydu

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 1 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:45, 1 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Yn amlwg, mae hwn yn waith sydd ar y gweill. Rwyf am dynnu eich sylw at y ffaith bod ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i fenywod sy'n rhan o'r system cyfiawnder troseddol wedi datgelu bod llai na hanner yr ynadon a arolygwyd gan y Gymdeithas Ynadon wedi clywed am y glasbrint cyfiawnder menywod, sydd â'r nod o leihau nifer y menywod yn y carchar. Mae'n destun pryder mawr clywed o garchar Eastwood Park fod menywod o dde Cymru yn llawer mwy tebygol o gael eu hanfon i'r carchar na menywod yn Nyfnaint a Chernyw. Felly, tybed a allech chi ddweud wrthym beth rydych chi'n ei wneud, a'ch swyddogion, i sicrhau bod pawb sy'n ymwneud â dedfrydu dynion a menywod yn ymwybodol o'r cynlluniau y mae Llywodraeth Cymru yn ymwneud â hwy, mewn partneriaeth â sefydliadau eraill.