Cyngor Cyfreithiol i Weinidog

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 1 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:52, 1 Mawrth 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, a gaf fi ddweud bod y materion rydych chi wedi'u codi yn fater i'r Gweinidog sydd â'r cyfrifoldeb portffolio i'w hateb, ond gallaf gadarnhau bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi gwneud datganiad llafar i'r Senedd ar 14 Chwefror ar adroddiad yr adolygiad ffyrdd, y cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth a'n datganiad polisi ffyrdd newydd. Cafodd yr adroddiad, y cynllun a'n hymateb eu cyhoeddi ar yr un diwrnod i nodi sut rydym yn cyflawni yn erbyn strategaeth drafnidiaeth Cymru. Mae cwestiynau wedi'u rhoi, atebion wedi eu rhoi, ond mae'n rhaid imi bwysleisio fy mod yn credu ei bod yn bwysig i'r materion hyn gael eu cyfeirio at y Gweinidog priodol sydd â'r cyfrifoldeb portffolio priodol.