Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 1 Mawrth 2023.
Rwy'n ailadrodd bod hon yn foment beryglus. Mae dull Llywodraeth y DU o weithredu wedi gosod cynsail pryderus. Byddwn yn gwneud popeth a allwn i amddiffyn ein setliad datganoli, y deddfau a basiwyd gan y Senedd hon, ac rydym yn parhau i fod yn benderfynol o gefnogi ein cymunedau trawsryweddol.