Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 1 Mawrth 2023.
Wel, diolch am eich cwestiwn. Yr hyn rwy'n ei wneud, wrth gwrs, a fy nghyfrifoldeb sylfaenol yw cynnal cyfansoddiad y Senedd hon, y sail y cawsom ein sefydlu arni a'r pwerau a'r cyfrifoldebau sydd gennym ni. A dyna pam roedd fy sylwadau cychwynnol yn ymwneud mewn gwirionedd â thanseilio'r egwyddorion cyfansoddiadol y caiff penderfyniadau eu gwneud ac y caiff deddfwriaeth ei phasio arnynt.
Nawr, fel y gwyddoch, mae'r safbwynt cyfreithiol yn yr Alban yn wahanol i'r safbwynt yng Nghymru. Nid yw'r pwerau sydd ar gael yn yr Alban wedi'u datganoli i Gymru ar hyn o bryd. Mae cydnabod rhywedd yn fater sydd wedi'i gadw yn ôl yn achos Cymru, ond rydym wedi dweud yn glir y byddwn yn ceisio'r pwerau hyn fel a nodwyd yn y rhaglen lywodraethu. Byddai defnydd deddfwriaethol o'r pwerau hyn yn fater i'r Senedd hon ei benderfynu, a phe bai hynny'n digwydd a bod y Senedd hon yn penderfynu ar safbwynt ar hynny, rwy'n siŵr y byddech chi, fel finnau a phawb arall yn y Senedd hon, yn parchu uniondeb cyfansoddiadol y lle hwn.