Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 1 Mawrth 2023.
Ar Ddydd Gŵyl Dewi cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol, yn ôl yn 2000, fe gafwyd dadl yn cynnig bod Dydd Gŵyl Dewi yn dod yn ŵyl banc. Fel y ddadl y llynedd, cafodd hwn gefnogaeth gan bob Aelod o'r Cynulliad ar y pryd. Serch hynny, yn 2002, gwrthod y cais wnaeth Paul Murphy, a gwrthod unwaith eto wnaeth Peter Hain yn 2005. Fydd Ysgrifennydd Gwladol Llafur yn y dyfodol yn rhoi ateb gwahanol i Mr Murphy a Peter Hain?