Bandiau Treth Incwm

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 1 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 2:59, 1 Mawrth 2023

Diolch am yr ateb cryno yna. Mae'r Llywodraeth yma wedi gwrthod derbyn yr angen i gynyddu trethi yng Nghymru, sydd yn sicr o arwain at weld ein gwasanaethu cyhoeddus yn crebachu ac yn gwegian, a rhai gwasanaethau am ddiflannu. Wrth gwrs, mae gwleidyddiaeth yn golygu gwneud penderfyniadau anodd. Mae honno’n benderfyniad, felly, rydych chi fel Llywodraeth wedi'i gymryd, ac mi fydd yn rhaid i bob un ohonom ni fyw efo hynny. Rŵan, rydw i'n deall nad ydy'r Llywodraeth am weld y bobl hynny ar yr incwm isaf yn talu mwy—does neb yn dymuno gweld hynny, wrth reswm. Un ffordd o osgoi hynny ydy i ni gael y gallu i addasu'r bandiau treth er mwyn medru gwarchod y rhai ar incwm isel ond galluogi cynnydd graddol i eraill. Mi fyddai hyn yn dod â Chymru'n gyson efo'r Alban. Fedrwn ni felly ddisgwyl gweld Llywodraeth San Steffan o dan y Blaid Lafur yn datganoli'r gallu yma i Gymru? Neu, o gymryd eich ateb i'r cwestiwn blaenorol, a chithau'n dweud na fyddech chi'n gallu rhagweld beth fyddai Llywodraeth Lafur yn y dyfodol yn gwneud, a fyddwch chi a'ch cyd-Aelodau yma yn gwthio am hyn? Diolch.