Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 1 Mawrth 2023.
Mae'r rheoliadau hyn, a ddaeth i rym ym mis Rhagfyr 2022, yn gymhleth ac maent wedi bod yn destun drafftio brys. Rydym yn ddiolchgar iawn am waith adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar y rheoliadau hyn ac rydym wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’r pwyntiau a godwyd gan y pwyllgor, gan gynnwys offeryn diwygio a gaiff ei gyflwyno'n fuan.