Part of 4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 1 Mawrth 2023.
Diolch, Jack Sargeant. Ni fydd deiliaid tai Cymru yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y cap ar brisiau oherwydd y warant pris ynni, sydd wedi'i gosod ar £2,500 ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn pryderu'n fawr am yr effaith bosibl a fyddai'n deillio o Lywodraeth y DU yn codi'r warant pris ynni i £3,000 ym mis Ebrill ar aelwydydd Cymru os na fydd cymorth ehangach Llywodraeth y DU yn parhau.