Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 1 Mawrth 2023.
Diolch, Lywydd. Dydd Llun oedd dechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, amser i bwysleisio nad yw anhwylderau bwyta’n ymwneud â bwyd yn unig, ond â theimladau. Y thema eleni yw cydnabod a chodi ymwybyddiaeth fod dynion yn dioddef anhwylderau bwyta hefyd, gan i arolwg gan elusen Beat Eating Disorders ganfod nad oedd un o bob tri erioed wedi cael triniaeth ac nad oedd un o bob pump erioed wedi siarad am eu trafferthion. Felly, hoffwn ofyn i fy holl gyd-Aelodau a phobl sy'n gwylio ymweld â gwefan Beat i ddarllen eu straeon ac i helpu dynion i gael cymorth hefyd. Bydd y grŵp trawsbleidiol ar gyfer anhwylderau bwyta yn cael ei ailsefydlu yr wythnos hon i drafod hyn a llawer o faterion eraill. Hoffwn ddiolch i Bethan Sayed, y cadeirydd blaenorol, yn ogystal â Jo Whitfield ac Amelia Holt o Beat Eating Disorders, sydd wedi bod yn ysgrifenyddion rhagorol.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi estyn allan ers imi siarad yn y Senedd am fy mhrofiad fy hun gydag anhwylder bwyta, boed hynny drwy gynnig cefnogaeth neu rannu eu stori eu hunain, gan gynnwys Georgia Taylor o Ben-y-bont ar Ogwr, sy'n gweithio gyda mi nawr i rannu ein profiadau, fel y gall eraill ddeall a theimlo'n llai unig. Nid yw anhwylder bwyta byth yn fai ar y sawl sy’n ei ddioddef, ac mae unrhyw un sydd ag anhwylder bwyta yn haeddu cymorth tosturiol cyflym i’w helpu i wella, oherwydd fe allwn wella. Diolch.