Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 1 Mawrth 2023.
Diolch yn fawr, Lywydd. Deallaf fod ein nawddsant, Dewi Sant, wedi dweud wrth filwyr Cymru am wisgo cenhinen ar eu helmedau fel y gallent wahaniaethu mewn brwydr rhwng eu cyd-Gymry a’r Sacsoniaid a oedd yn gwisgo arfwisgoedd tebyg. Awgryma hyn fod yn rhaid bod yna lawer mwy o gennin yn y ganrif gyntaf na y maent yn yr unfed ganrif ar hugain, os oeddent yn cael eu defnyddio fel addurniadau yn hytrach na bwyd.
Tra bo un o'r archfarchnadoedd yr ymwelais â hwy nos Lun wedi rhedeg allan o gennin, roedd cennin ar gael yn y ddwy arall. Ond roedd yr un a brynais yn yr archfarchnad, a'r llall gan fy ngwerthwr ffrwythau a llysiau lleol, wedi eu tyfu yn swydd Lincoln. Serch hynny, mae cynnydd wedi bod gyda thyfu’r llysiau Cymreig eiconig hyn yng Nghymru ers imi godi’r mater yn y Siambr ar Ddydd Gŵyl Dewi y llynedd. Er enghraifft, yn Morrisons, sy'n gwerthu cennin Blas y Tir a chennin swydd Lincoln ar hyn o bryd, o fis Gorffennaf eleni, bydd cennin Cymreig ar gael yn lle cennin swydd Lincoln ym mhob un o siopau Morrisons yng Nghymru. Ac fel llawer o archfarchnadoedd eraill, maent yn hyrwyddo cennin Cymreig a chynnyrch lleol arall, gan gynnwys cennin Pedr Cymreig, fel rhan o’u dathliadau Dydd Gŵyl Dewi.
Mae Puffin Produce a'u brand Blas y Tir yn parhau i arwain y farchnad gennin a llawer o lysiau eraill yng Nghymru, a byddant yn ehangu eu cynhyrchiant cennin o 1,600 tunnell y tymor hwn i 2,600 tunnell y tymor nesaf—byddant yn cael eu plannu yn y deufis nesaf. Nawr, mae’r datblygiad hwn, sydd i’w groesawu’n fawr, wedi'i gefnogi gan fuddsoddiad cyfalaf o £1.2 miliwn mewn cyfleusterau golchi a phacio cennin o’r radd flaenaf, gyda chynllun grant buddsoddi mewn busnesau bwyd Llywodraeth Cymru yn talu am 40 y cant ohono—