Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 1 Mawrth 2023.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Mae’n bleser cymryd rhan yn y ddadl yma y prynhawn yma, a lle dwi'n gallu siarad Cymraeg pan dwi'n rhoi fy meddwl iddo, dwi ddim fel arfer yn siarad cymaint o Gymraeg ag y dylwn i. Dwi'n meddwl yn Saesneg, felly rhaid meddwl dwbl, os ydw i'n clywed rhywun neu'n siarad Cymraeg.
Fel mae pawb wedi clywed drwy’r ddadl hon, mae’r Gymraeg wrth galon ein gwlad, mae’n bwysig ein bod ni'n gwarchod a hyrwyddo hi. Er ein bod ni i gyd eisiau i Gymru fod yn wlad ddwyieithog, yn anffodus, mae ffigurau—