7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Gymraeg

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 1 Mawrth 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:27, 1 Mawrth 2023

Gaf i ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw? A diolch, Tom, am rannu dy siwrnai di efo'r iaith. Mae'n hyfryd dy glywed di a dy hyder wedi cynyddu yn yr amser rwyt ti wedi bod yma. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr i fod ar Hawl i Holi, rhywbeth wnest ti ddweud y buaset ti byth yn ei wneud cwpwl o fisoedd yn ôl, ond rwyt ti'n ei wneud o nos yfory. Dwi'n meddwl bod hynna'n wych ac yn dangos ei bod hi'n bosib cael y gefnogaeth a'r gwahaniaeth mae'n ei gwneud wedyn o ran cymryd y cyfle yna i jest gymryd y siawns o siarad Cymraeg, a dim ots am wneud unrhyw fath o gamgymeriad. Mae'n hyfryd clywed mwy o Gymraeg yn fan hyn a mwy o bobl yn trio efo'r Gymraeg.

Yn sicr, mae'n hawdd i rywun fel fi, Heledd Fychan, wedi fy magu yn Ynys Môn i rieni oedd yn siarad Cymraeg, i fod yma'n siarad Cymraeg, wedi cael fy magu mewn cymuned lle prin oedd Saesneg o'm cwmpas i. Yn wir, pan es i i'r brifysgol gwnes i ddechrau siarad Saesneg o ddydd i ddydd, a dwi'n meddwl mae hi'n eithriadol o bwysig os ydyn ni o ddifrif eisiau gweld y Gymraeg yn parhau i'r dyfodol, nid pobl fel fi sy'n mynd i achub yr iaith, ond y rhai hynny sydd yn cymryd y siawns ac yn mynd ati i ddysgu a chefnogi'r iaith.

A hithau’n Ddydd Gŵyl Dewi, byddwn ni i gyd yn cofio heddiw eiriau Dewi Sant o ran gwnewch y pethau bychain. Yn sicr, o ran y Gymraeg a’i pharhad, gallwn oll, yn siaradwyr Cymraeg hyderus, yn ddysgwyr, neu’n rhai sy'n gefnogol i’r iaith—y rhai sydd efo'r Gymraeg yn y galon ond efallai ddim yn y pen—wneud y pethau bychain bob dydd i sicrhau dyfodol i’r iaith. Mae hefyd yn glir na fydd hyn yn ddigon a bod angen i’r Llywodraeth wneud y pethau mawr os ydym ni eisiau cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn arbennig o wir yn dilyn canlyniadau’r cyfrifiad diweddar, gyda’r niferoedd o siaradwyr wedi gostwng i 17.8 y cant, y nifer isaf erioed.

Fel y gwelwn yng ngwelliant y Llywodraeth, mae hyn yn groes i rai ffynonellau data eraill, ond, fel rwyf wedi dweud droeon erbyn hyn, mae yn bryderus clywed y Llywodraeth dro ar ôl tro yn cwestiynu ffigyrau’r cyfrifiad a hwythau hyd at eleni wedi eu defnyddio fel sail i gynllunio twf yr iaith. Dyna pam, felly, er ein bod yn cytuno gyda gweddill y pwyntiau yn y gwelliant gan y Llywodraeth, y byddwn fel Plaid yn ymatal rhag cefnogi’r gwelliant, gan nad ydym yn credu bod cwestiynu dilysrwydd data’r cyfrifiad yn help mewn difrif o ran sicrhau parhad yr iaith.

Ond â rhoi’r mater o niferoedd i’r naill ochr am funud, gobeithio y gallwn oll fod yn gytûn bod newid wedi bod o ran agweddau tuag at yr iaith dros y blynyddoedd diwethaf, gyda mwy o bobl yn gynnes tuag at yr iaith ac eisiau ei dysgu. Allwn ni ddim gor-bwysleisio pwysigrwydd sefydliadau megis Cymdeithas Pêl Droed Cymru, yr Urdd ac eraill o ran sicrhau bod mwy a mwy o bobl yn dechrau teimlo bod yr iaith yn perthyn iddyn nhw, boed nhw’n siarad yr iaith neu beidio. Ac wnaf i byth, tra byddaf, anghofio gweld Gareth Bale a gweddill y tîm yn cyd-ganu 'Yma o Hyd' gyda Dafydd Iwan. Roedd hon yn foment fawr i’r iaith, ac yn un y gellid dadlau gyda’i gwreiddiau yn narlith 'Tynged yr Iaith' Saunders Lewis yn 1962, fu’n sbardun i sefydlu Cymdeithas yr Iaith.

O ran y cynnig gwreiddiol heddiw, dwi’n falch o weld y pwyslais gan y Ceidwadwyr ar y pwysigrwydd o ddefnyddio’r Gymraeg. Yn sicr, mae'n hanfodol darparu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth neu yn y gwaith, ond yn anffodus, mae’r cyfle i wneud hyn yn parhau i fod yn anghyson ledled Cymru. Cymerwch, er enghraifft, gwasanaethau yn y Gymraeg, neu’r cyfle i fwynhau drwy’r Gymraeg, neu ymwneud â gweithgareddau hamdden. Er bod y safonau wedi gwella mynediad at wasanaethau, yn aml iawn, mae gwasanaethau o’r fath wedi eu cyfyngu, a rhaid parhau i gryfhau’r elfen hon.

Mae’r un peth yn wir hefyd, wrth gwrs, o ran mynediad at  addysg Gymraeg, a’r anghysondeb o ran sut mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Un peth sydd wedi fy nhristáu i ers dod yn Aelod o’r Senedd yw’r nifer o bobl ifanc rwyf wedi eu cyfarfod sydd wedi dweud wrthyf am eu dicter ynglŷn â’r ffaith nad ydynt yn medru’r Gymraeg, er gwaethaf mynychu ysgolion yng Nghymru a derbyn gwersi Cymraeg, a chael TGAU mewn Cymraeg, yn aml iawn. Mae'r rhain yn bobl ifanc wedi eu geni ers i’r Senedd hon fodoli, a'n cyfrifoldeb ni—drwy’r Bil Addysg y Gymraeg sy’n rhan o’r cytundeb cydweithio—yw ein bod yn unioni’r gwall hwn ar gyfer y cenedlaethau i ddod. Dylai pob disgybl yng Nghymru adael yr ysgol yn medru’r Gymraeg a'r Saesneg yn hyderus—ynghyd â ieithoedd eraill—a byddai peidio gosod hynny fel nod a chymryd y camau i wireddu hynny yn fethiant ar ein rhan ni oll.

Yn amlwg, mae prinder athrawon yn rhywbeth arall rydyn ni'n ymwybodol iawn ohono, ac mae'n rhaid inni sicrhau gweld twf yn y fan yna. Mae rhaid hefyd sicrhau cynnwys a chyfleoedd digidol yn y Gymraeg. Gyda mwy a mwy ohonom yn defnyddio gwasanaethau ar-lein, neu’n gwylio cynnwys ar-lein, rhaid sicrhau bod rhain hefyd ar gael. Mae’r un mor bwysig o ran parhad yr iaith ag oedd cael beibl yn y Gymraeg yn dilyn cyfieithiad yr Esgob William Morgan yn 1588.

Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ond os ydyn ni eisiau i bawb gael y cyfle i’w dysgu a’i defnyddio, lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru, mae yna waith mawr yn parhau o’n blaenau. Efallai fod yr iaith ‘yma o hyd’, ac 'er gwaethaf pawb a phopeth', ond mae ei dyfodol yn parhau yn fregus os na welwn hefyd weithredu radical.