Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 1 Mawrth 2023.
Nid oeddwn yn bwriadu siarad yn y ddadl hon tan imi glywed dechrau'r ddadl, ac nid yw fy Nghymraeg yn agos at fod yn ddigon da i ysgrifennu araith Gymraeg yn y 10 munud neu chwarter awr ers dechrau'r ddadl, felly rwy'n gobeithio y bydd pobl yn derbyn hynny.
Beth yw'r sefyllfa gyda'r iaith Gymraeg? A gaf fi sôn am rai pethau cadarnhaol? Pan fo'r Aelodau'n ymweld ag ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg, mae'n rhaid bod hyd a lled y Gymraeg achlysurol sy'n cael ei defnyddio yno wedi creu argraff arnoch, ac nid dim ond 'Bore da, prynhawn da' a chyfarchion cyffredinol, ond faint o Gymraeg achlysurol cyffredinol sydd i'w chlywed, a faint o Gymraeg sydd ar y waliau. Ac rwy'n siŵr nad yw rhieni'r un o'r plant hynny yn nodi eu bod yn siaradwyr Cymraeg, ond eto bob dydd, mae'r plant hynny'n siarad Cymraeg yn yr ysgol. Ac rwy'n credu mai dyna un o'r problemau gyda'r hunanasesiad, neu mewn llawer o achosion, asesiad rhieni, o'r gallu i siarad Cymraeg: mae'n rhoi niferoedd a bydd pobl yn eu defnyddio i feirniadu neu longyfarch y Llywodraeth—er rwy'n credu mai beirniadu sy'n digwydd amlaf mae'n debyg—ond rwy'n credu bod angen inni asesu beth yw'r sefyllfa mewn perthynas â'r Gymraeg.
O ran y twf ysgolion cyfrwng Cymraeg ledled Cymru—a gallaf siarad am Ddwyrain Abertawe. Pan aeth fy llysferch i'r ysgol, dim ond Ysgol Gyfun Gŵyr oedd yno. Erbyn hyn, o ran ysgolion uwchradd, mae gennym Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, ond hefyd roedd yn arfer bod gennym Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las fel yr unig ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg. Nawr, ac rwy'n canolbwyntio'n unig ar Ddwyrain Abertawe, mae gennym Ysgol Gymraeg y Cwm yn ogystal â Lôn Las, ac mae gennych Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan, lle mae fy ŵyr yn mynd, wedyn mae gennych Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw, lle mae aelodau o fy nheulu'n gweithio. Felly, mae twf enfawr wedi bod yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. Rwy'n siŵr y bydd rhywun yn dweud yn nes ymlaen, os ydych yn creu ysgolion cyfrwng Cymraeg, y bydd rhieni'n anfon eu plant iddynt. Ac rwy'n siŵr y bydd rhywun arall yn dweud bod angen mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg. Nid wyf yn anghytuno â dim o hynny. Rwy'n credu y dylem gael strategaeth sy'n canolbwyntio ar ba lefel o ysgolion cyfrwng Cymraeg y credwn y dylai pob ardal ei chael, yn hytrach na chael ymagwedd o'r gwaelod i fyny gan yr awdurdod lleol. O gael, 'Rydym yn credu y dylai Abertawe gael...' ac ni allaf ond siarad am Ddwyrain Abertawe, mae'n debyg y gallem wneud gydag o leiaf un ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg arall, er bod yna anawsterau o ran dod o hyd i rywle. Rydym yn ardal adeiledig iawn, fel y bydd unrhyw un arall sy'n cynrychioli'r ardal yn gwybod. Felly, nid oes llawer o dir yn agos at lle mae pobl yn byw.
A gaf fi sôn am rai o'r problemau? Os siaradaf am Fro Cymru, cadarnle mawr y Gymraeg, a oedd yn arfer ymestyn o'r rhan fwyaf o Ynys Môn i lawr i Gwmllynfell, mae'n fwy clytiog erbyn hyn. Nid wyf wedi gweld canlyniadau llawn y cyfrifiad hwn, ond rwy'n dyfalu y bydd yn fwy clytiog byth bellach. Ymysg llawer o'r dadleuon a gefais gyda'r Prif Weinidog blaenorol, dywedais, 'Mae angen i 80 y cant o'r boblogaeth fod yn siarad Cymraeg mewn ardal i'r iaith honno gael ei hystyried yn iaith yr ardal', oherwydd os oes gennych chi 80 y cant yn siarad Cymraeg yno, os byddwch yn cwrdd â rhywun, bydd pedwar o bob pump person y siaradwch â hwy'n siarad Cymraeg—mae'n werth rhoi cynnig arni. Wrth fynd lawr i 50 y cant, mae'n un o bob dau, ac mae'n debyg nad yw'n werth rhoi cynnig arni. Pan ymwelaf â Chaernarfon—rwy'n siŵr fod pobl eraill yn adnabod Caernarfon yn well na mi; rwy'n siŵr fod Heledd Fychan o Ynys Môn yn adnabod yr ardal yn llawer gwell na fi—Cymraeg yw iaith y stryd. Os ewch i dafarn, maent yn disgwyl i chi archebu cwrw yn Gymraeg. Os ydych yn archebu bwyd, maent yn disgwyl i chi archebu bwyd yn Gymraeg. A phan ewch i mewn i siopau, maent yn disgwyl i chi brynu eitemau yn Gymraeg. Rwy'n dod o Dreforys lle mae tua un o bob pump o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg, ond mae yna ddiffyg disgwyliad. Mae rhai pobl yn siarad Cymraeg pan fyddant yn mynd i siopau ac yn y blaen, yn y gobaith y byddant yn deall, ond nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn trafferthu. Gallwn ddweud mai cwrteisi cyffredinol siaradwyr Cymraeg ydyw, ond gan fod fy ngwraig a fy merch ill dwy yn siaradwyr Cymraeg, ni fyddwn yn dweud hynny.
Rwy'n siarad Cymraeg bob dydd, ond rwy'n dewis gyda phwy rwy'n ei siarad. Rwy'n falch fod Delyth wedi dod i mewn i'r ystafell nawr, oherwydd mae hi'n un o'r ychydig bobl rwy'n siarad Cymraeg â hwy yma, ac os ysgrifennaf at Delyth, rwyf bob amser yn ysgrifennu ati yn Gymraeg. Ond rwy'n hyderus na fydd hi'n gwneud hwyl am fy mhen os gwnaf hynny, ac rwy'n credu mai dyna un o'r problemau a gawn gyda'r rhai ohonom nad ydym yn hyderus yn y Gymraeg, ac yn sicr y rhai ohonom nad ydym yn hyderus i siarad Cymraeg yn y Siambr.
Yn olaf, rydym angen gwybod pa mor aml y mae pobl yn siarad Cymraeg. Rwy'n adnabod pobl sy'n gallu siarad Cymraeg, ond byth yn gwneud hynny, ac rwy'n credu bod angen inni ddarganfod faint o bobl sy'n ei siarad yn ddyddiol neu'n wythnosol. Rwy'n credu ein bod angen hynny yn y cyfrifiad, ac efallai y byddem yn cael canlyniad mwy cywir, ond efallai'n bwysicach na hynny, efallai y byddem yn cael canlyniad mwy ystyrlon.