Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 1 Mawrth 2023.
Wel, does dim sifft, a does dim diystyru. Y llinyn mesur yw'r cyfrifiad, ond mae'n rhaid edrych ar y cyd-destun ehangach os ydyn ni'n moyn seilio'n polisi ar ffaith yn hytrach na'r hyn hoffem ni ei weld. Felly, dyna pam mae edrych ar y darlun ehangach mor bwysig.
Ond, fel roeddwn i'n dweud, mae'n bwysig hefyd ein bod ni'n edrych ar y gwaith fydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn ein helpu ni gyda fe, oherwydd bydd argymhellion polisi yn sicr yn dod yn sgil eu gwaith nhw, ac rwy'n siŵr bydd cyfle pellach inni drafod a dadlau am hynny.
Roedd yr Aelod yn sôn bod y Gymraeg yn ased diwylliannol pwysig; dwi'n cytuno. Wrth edrych ar sut mae pêl-droed wedi cofleidio'n hiaith ni yma yng Nghymru ac ar y llwyfan rhyngwladol dros y blynyddoedd diwethaf, mae modd, dwi'n credu, inni weld yn glir yr hyn mae chwaraeon yn gallu cyfrannu i'n hiaith ni ac i'n hysbryd cenedlaethol ni. Fe es i i ddigwyddiad Dydd Miwsig Cymru ychydig yn ôl. Roedd hi'n hyfryd gweld cymaint o frwdfrydedd tuag at y Gymraeg a'n diwylliant ni, nid jest yng Nghymru ond y tu hwnt hefyd—pobl yn dod at ei gilydd oherwydd y Gymraeg, diwylliant y Gymraeg, yn y Gymraeg. Fel roeddwn i'n dweud, peth pobl yw'n hiaith ni. Ac roedd y cydweithio gwelsom ni y diwrnod hwnnw rhwng ysgolion, mentrau iaith a llu o bobl a sefydliadau eraill yn wych. Diolch iddyn nhw ac i Ddydd Miwsig Cymru am eu gwaith trwy gydol y flwyddyn.
Gwnes i hefyd cyhoeddi cystadleuaeth grant newydd sbon i feithrin sgiliau a'r gallu i greu cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd mewn digwyddiadau cerddorol a gigs Cymraeg, a dwi am weithio gyda Gweinidogion eraill, a Phlaid Cymru, trwy'r cytundeb cydweithio, i wreiddio'r Gymraeg yn ein strategaeth ddiwylliant newydd.
Rydym ni wedi clywed sôn gan Tom Giffard ar y cychwyn am lefelau hyder siaradwyr Cymraeg a phwysigrwydd cynyddu cyfleoedd i ddefnyddio'n hiaith ni. Rwy'n cytuno; dyna graidd fy ngwaith i. Dyna pam mae gyda ni Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a diolch iddyn nhw am eu gwaith. Mae galluogi a grymuso siaradwyr newydd, a'r rheini dyw'r Gymraeg ddim wedi bod yn rhan o'i rwtîn nhw ers sbel, i ddefnyddio'r Gymraeg sydd gyda nhw yn hollbwysig. Felly, fy neges i i bawb sy'n dysgu'r Gymraeg neu sy'n ei medru hi ond efallai bach yn ddihyder yw: ewch amdani. Defnyddiwch hynny o Gymraeg sydd gyda chi lle bynnag y gallwch chi, a byddaf i'n gweithio i greu mwy o gyfleoedd i chi. Fesul gair, fesul brawddeg, fe fyddwch chi'n magu hyder a hefyd yn ysbrydoli eraill. Mae ymrwymiad y Llywodraeth i'n hiaith ni yn gwbl glir: rŷn ni am weld dyfodol llewyrchus iddi.