Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 1 Mawrth 2023.
Diolch yn fawr, Llywydd dros dro. Dwi'n cytuno â beth ddywedodd y Gweinidog ar y diwedd—mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb—a dyna pam roedd e'n braf clywed pobl dwi'n gwybod eu bod yn gallu siarad ambell air o Gymraeg yn ein grŵp ni, ond dŷn ni ddim wedi'u clywed yn y Siambr hyd yn hyn. Felly, a allaf ddechrau drwy ddweud fy mod i'n falch iawn o glywed James Evans a Gareth Davies heddiw yn siarad Cymraeg yn y Siambr hon? Da iawn i'r ddau ohonyn nhw. Ac mae'r Gweinidog yn gywir yn yr hyn ddywedodd e: mae 86 y cant o bobl yn meddwl bod yr iaith Gymraeg yn rhywbeth i fod yn falch ohono, ac mae e'n iawn nad oes angen becso os ŷch chi'n siarad yn Gymraeg neu'n Saesneg, neu os ydych chi'n gwybod ambell air o Gymraeg; mae'n bwysig eich bod chi'n datblygu yr iaith sydd gennych chi, a dyna, fel dywedais i ar y dechrau, fy stori i hefyd.
Fe wnaeth James Evans a Mike Hedges a'r Gweinidog sôn am hyder. Hyder yw'r peth mwyaf pwysig, dwi'n credu, pan fo'n dod i siarad Cymraeg a sgiliau siarad Cymraeg pob dydd. Ond mae'n bwysig hefyd fod pobl yng Nghymru yn gallu cael addysg Gymraeg hefyd, a dyna pam roedd hi'n braf clywed Sioned Williams a Mike Hedges yn sôn am bwysigrwydd ysgolion Cymraeg a'u bod nhw ar gael. Ac mae Mike yn iawn: mae'r ddau ohonom ni'n cynrychioli Abertawe, ac rydyn ni wedi gweld datblygiad yn ninas Abertawe o ran ysgolion Cymraeg dros y blynyddoedd diwethaf. Ond fel y gwnaeth Heledd Fychan sôn, mae 'Cymraeg 2050' yn darged uchelgeisiol—does neb yn cuddio o'r ffaith honno. Yr unig ffordd fyddwn ni'n gallu cyrraedd y targed hwn fydd drwy gydweithio, a phartneriaeth hefyd.
Ac o'n rhan ni, y rheswm rydyn ni wedi rhoi'r ddadl yma heddiw yw ein bod ni eisiau bod yn ffrind beirniadol i'r Llywodraeth. Rydyn ni am annog y Gweinidog i ddyblu ei ymdrechion, dwi'n gobeithio, yn enwedig os ydym ni'n edrych nôl at gyfrifiad 2021. Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn ymwybodol iawn o'r heriau sy'n wynebu'r sector addysg, ac rydym ni wedi clywed Laura Anne Jones yn sôn am y problemau mae'r sector addysg yn edrych arnynt, yn enwedig o ran recriwtio siaradwyr Cymraeg i ddysgu yn yr iaith Gymraeg hefyd mewn lleoliadau iaith gyntaf ac ail iaith. Ac mae canran uchel o athrawon yn nesáu at oedran ymddeol, ac mae nifer sylweddol yn gallu dewis ymddeol yn gynnar, ond, er gwaethaf hyn, dydyn ni ddim yn recriwtio digon o athrawon newydd yn yr iaith Gymraeg o hyd. Bydd hyn yn rhwystr mewn pum, 10, 15 mlynedd, ac yn amharu'n sylweddol ar allu'r Llywodraeth i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg, fel rŷn ni i gyd eisiau'u gweld. Yn ôl data Llywodraeth Cymru ei hun, er mwyn cyrraedd y targed hwnnw, dylen nhw fod yn recriwtio 550 o athrawon y flwyddyn, ond mae'r realiti yn llawer gwahanol—mae'r ffigur gwirioneddol yn 500 o athrawon yn brin o'r targed recriwtio angenrheidiol. Felly, o ystyried hyn, allaf i annog Gweinidog y Gymraeg i ddyblu lawr ar ei ymdrechion i sicrhau bod gennym ni ddigon o athrawon Cymraeg yn y dyfodol?
A gadewch i ni fod yn glir: mae'r heriau recriwtio hyn yn hynod o gymhleth. Nid oes un ateb unigol, ond dyna pam mae angen i ni weld cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, addysg uwch, addysg bellach ac awdurdodau lleol. Mae angen i bawb fod yn canu o'r un daflen. Dwi'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Samuel Kurtz wedi codi gyda'r Gweinidog bwysigrwydd achrediad addysg gychwynnol athrawon fel ateb posibl i'r heriau rydyn ni wedi'u codi. Hoffwn i glywed mwy gan y Gweinidog am y wybodaeth ddiweddaraf ar y mater hwn ar ôl i'r consultation ddod i ben ddiwedd mis Ionawr. Dwi'n gobeithio bod pawb yn cytuno y gall partneriaeth addysg gychwynnol athrawon chwarae rhan allweddol i ddatblygu gweithlu addysg dwyieithog. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod y meini prawf yn cyd-fynd law yn llaw â pholisi'r Llywodraeth drwy ddatblygu ffyrdd ymarferol lle gall y Llywodraeth ddangos bod 'Cymraeg 2050' yn fwy na tharged yn unig, ond bwriad hefyd.
I gloi, Llywydd, hoffwn i ailadrodd fy mhwynt cychwynnol. Nid pwrpas y cynnig hwn yw canfod bai ar Lywodraeth Cymru, neu beth bynnag. Rŷn ni eisiau i chi lwyddo. Rydyn ni i gyd yn moyn eich gweld chi'n llwyddo. Rydyn ni i gyd eisiau gweld miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ond er mwyn i hwnna fod yn wir, mae'n rhaid i ni fod yn barod, yn feiddgar ac yn uchelgeisiol gyda'n penderfyniadau. Gyda hynny, rwy'n annog pob Aelod i bleidleisio o blaid ein cynnig y prynhawn yma. Diolch.