Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 1 Mawrth 2023.
Diolch yn fawr iawn ichi, Llywydd. Allaf i ddechrau gan ddymuno i bawb yn y Senedd heddiw, a phawb sy’n gwylio ar draws Cymru, Dydd Gŵyl Dewi hapus? Dwi’n falch o gael y cyfle i agor y ddadl hon heddiw a gyflwynwyd yn enw Darren Millar oherwydd mae’n ddadl bwysig iawn i’w chael yn y Senedd, yn enwedig ar Ddydd Gŵyl Dewi. Oherwydd mae’n bwysig ein bod ni’n rhannu’r neges o’r Senedd i bobl Cymru i ddweud nad yw ein hiaith Gymraeg ond yn perthyn i bobl sydd yn siarad Cymraeg yn rhugl; mae’n perthyn i bob person sydd yn byw yng Nghymru.
Ond nid ond iaith yn yr ystyr draddodiadol yw'r Gymraeg. I’r rhan fwyaf ohonom ni, mae’n stori—hanes ein taith gyda’r iaith Gymraeg. Bydd rhai ohonom ni wedi siarad Cymraeg gartref, yn yr ysgol, ac wedi byw mewn cymunedau Cymraeg yn bennaf ar hyd ein hoes. Efallai fod eraill yn dysgu siarad Cymraeg am y tro cyntaf, wedi datblygu diddordeb neu gariad at ein gwlad. Ac efallai mai dim ond ychydig o eiriau rydych chi’n eu gwybod, ond rydych chi’n eu defnyddio nhw gyda balchder pryd bynnag rydych chi’n teimlo’n gyfforddus i wneud hynny. Dyna pam dwi’n edrych ymlaen at glywed o gydweithwyr o bob rhan o’r Siambr heddiw, i glywed am eu stori Cymraeg.
I mi, mae’n ychydig mwy cymhleth. Es i i ysgol Gymraeg ail iaith, a ces i TGAU yn Gymraeg ail iaith, ac ar ôl hynny, gweithiais mewn ysgol Gymraeg fel cynorthwyydd dysgu yn y flwyddyn ar ôl i mi adael ysgol fy hun. Pan adawais i’r ysgol, nid oedd fy Nghymraeg o’r safon orau oherwydd nid oedd hi’n bwysig iawn i fi ei datblygu hi. Er bod y rhan fwyaf o fy nysgu yn Saesneg, gwnaeth y trochi o orfod siarad bob dydd gyda staff a disgyblion mewn lleoliad addysg ddod â fy sgiliau ymlaen yn sylweddol. Wedyn, trwy gydol fy mhrofiad prifysgol a’r degawd wedyn, doeddwn i braidd dim wedi siarad gair o Gymraeg, ac roeddwn i bron wedi anghofio fy mod i’n gallu siarad Cymraeg o gwbl.
Yna, yn 2021, ces i fy ethol i’r Senedd hon ym Mae Caerdydd, a gwnes i gadw yn dawel i ddechrau, a dweud y gwir, fy mod i’n gallu siarad Cymraeg o gwbl. Wedyn gwnes i gyfarfod â rhywun am y tro cyntaf o’r enw Samuel Kurtz. Wel, mewn gwirionedd, yr ail dro oedd hi, ond dŷn ni ddim yn siarad am y tro cyntaf. Ond er bod safon Sam yn well na fy safon i, roedd e’n teimlo’r un peth yr oeddwn i’n ei deimlo—nad oedd e wedi defnyddio ei sgiliau digon ar draws y blynyddoedd cynt. Roedd e’n teimlo, fel fi, ei fod e wedi rhydu. Felly, penderfynon ni i ddysgu Cymraeg gyda’n gilydd, gan ddefnyddio’r gwasanaethau sydd ar gael yma yn y Senedd, ac roedd hynny’n drobwynt i mi, i gael rhywun fy mod i’n gallu sgwrsio â nhw yn Gymraeg a dysgu hefyd—pwysig iawn i fi. Nawr dwi’n teimlo’n fwy abl i wneud cyfweliad teledu neu radio yn Gymraeg, a dwi’n edrych ymlaen at nos fory, gyda Heledd Fychan—rydyn ni’n gwneud Hawl i Holi gyda’n gilydd ar Radio Cymru.
Achos mae siarad Cymraeg yn gymaint i'w wneud â hyder ag ydyw i'w wneud â sgiliau. Does dim ots pa mor hen ydych chi, neu ba mor dda yw eich sgiliau Cymraeg; nawr yw’r amser gorau i ddysgu. Ond i ysbrydoli rhywun i dderbyn yr her, mae angen modelau rôl cryf yn y Gymraeg. Dyna pam ei bod hi'n braf gweld nifer o sefydliadau—yn fwyaf nodedig, yr FAW—yn manteisio ar y cyfle i normaleiddio siarad Cymraeg. Ond i mi, person yw fy model rôl Cymraeg, a’r person—a dwi’n gwybod y byddai fe wedi eisiau bod yma heddiw—sy'n fodel rôl i mi yn Gymraeg yw Paul Davies. Mae Paul yn rhywun sydd yr un mor falch o'i hunaniaeth Gymraeg a'r iaith Gymraeg ag ydyw o'i un Prydeinig hefyd. A dyna beth oeddwn i'n teimlo. Roedd e wedi dangos nad oedd gwrth-ddweud rhwng bod yn Gymro a siarad Cymraeg a bod yn Geidwadwr, achos y blaid Geidwadol sydd wedi bod yn gyfrifol am rai o'r datblygiadau mwyaf ym mholisi iaith Gymraeg erioed. Ceidwadwyr mewn Llywodraeth a ddechreuodd y Welsh Language Act 1993, gan ffurfio Bwrdd yr Iaith Gymraeg, datblygiadau mewn addysg Gymraeg ac, wrth gwrs, sefydlu'r sianel deledu gyntaf yn yr iaith Gymraeg, S4C.
Ond gwyddom fod llawer mwy i'w ddweud, a dyna pam rydym ni'n cyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Mae canlyniadau’r cyfrifiad diweddaraf sydd yn dangos gostyngiad yn nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg dros y ddegawd ddiwethaf yn hynod siomedig. Ac mae’n rhoi strategaeth 'Cymraeg 2050' Llywodraeth Cymru mewn perygl sylweddol o beidio â chael ei chyrraedd. Ond yr hyn sy’n peri’r pryder mwyaf i mi yw’r gostyngiad o 6 y cant yn y siaradwyr Cymraeg rhwng pump ac 15 oed, y rhai a fydd yn dysgu Cymraeg mewn sefyllfa ffurfiol. Yn ogystal, rydyn ni wedi gweld gostyngiadau mewn ardaloedd traddodiadol yr iaith Gymraeg hefyd fel Ceredigion, sir Gaerfyrddin a Gwynedd. Mae llawer mwy i’w ddweud yn ystod y ddadl hon, dwi'n siŵr, gan Aelodau ar bob ochr, ac rwy'n siwr y bydd.
Mae'r hyn yr ydyn ni'n bwriadu ei gyflawni yn ddeublyg. Yn gyntaf oll, rydyn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig i bobl siarad Cymraeg yn y lle cyntaf, oherwydd rydyn ni yn gwybod y gall y profiadau hyn fod yn ffurfiannol ym mywydau pobl. Yn ail, dŷn ni'n cyflwyno'r ddadl hon heddiw oherwydd mae'n anfon neges glir i bobl ledled Cymru mai dyma eich iaith chi, beth bynnag eich lefel, felly siaradwch hi, defnyddiwch hi ac edrychwch ar ei hôl hi fel y gall cenedlaethau i ddod wneud yr un peth. Diolch.