1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Mawrth 2023.
6. Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o bwysigrwydd cysylltedd ffyrdd i'r economi yng nghanolbarth Cymru? OQ59208
Rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Nodwyd yr asesiad hwnnw yn 'Llwybr Newydd', sef strategaeth trafnidiaeth Cymru. Mae hwnnw'n cadarnhau pwysigrwydd cysylltedd ffyrdd at ddibenion cymdeithasol ac economaidd cynaliadwy, a asesir yn ôl yr anghenion sy'n amrywio mewn gwahanol rannau o Gymru.
Diolch i chi am eich ateb, Prif Weinidog. Roeddwn i'n falch na chafodd y cynllun i wella'r ffordd ar Lôn y Ffos, Caersŵs ei ddiddymu yn rhan o'r adolygiad diweddar o ffyrdd. Mae hi'n gwbl hanfodol fod y cynllun hwn yn digwydd, nid yn unig ar gyfer lliniaru tagfeydd, ond fe geir nifer o bryderon o ran diogelwch yno, ac, yn anffodus, fe gafwyd nifer o ddamweiniau angheuol dros nifer o flynyddoedd. Fe wn i, Prif Weinidog, eich bod chi'n gyfarwydd â'r ffordd hon, oherwydd fe wnaethoch chi deithio i Landinam yn ddiweddar, ychydig filltiroedd i fyny'r gefnffordd.
Yn gysylltiedig â'r cynllun arbennig hwn hefyd, a chyn i'r adolygiad o ffyrdd ddechrau, roedd cynlluniau ar gyfer pont droed ar wahân uwchben Caersŵs hefyd, a chysylltwyd y cynllun hwnnw â'r cynllun i wella'r ffordd—yn briodol felly; roedd hynny'n gwneud synnwyr llwyr. Ond yn sicr fe geir pryderon o ran diogelwch yn y fan honno hefyd, oherwydd mae hi'n rhaid i gerddwyr groesi'r darn hwn o'r gefnffordd, am nad oes digon o le yno i godi pont droed. Felly, tybed, Prif Weinidog, a wnewch chi nodi amserlen ac unrhyw wybodaeth bellach yng nghyswllt y cynllun hwn i wella'r ffordd, a'r bont droed ar wahân arfaethedig hefyd, yn ogystal â'r cynllun teithio llesol ehangach yng Nghaersŵs hefyd.
Rwy'n diolch i Russell George am hynna, Llywydd, ac rwy'n gwybod y bu ef yn eiriolwr diflino dros y cynllun yng Nghaersŵs. Fe welais ei fod wedi codi'r mater gyda'r Gweinidog ar lawr y Senedd yn ôl ar y 15 o fis Chwefror, ac mae ef yn iawn i ddweud bod y cynllun am fynd yn ei flaen, yn dilyn yr adolygiad o ffyrdd, am rai o'r rhesymau, gan gynnwys y rhesymau o ran diogelwch, a nododd yr Aelod brynhawn heddiw. Yr hyn a fydd yn digwydd nawr yw y bydd y cynllun yn dal i ddatblygu, ac y bydd angen cynnwys peth o'r argymhellion mwy diweddar yng ngwead y prosiect, yn cynnwys yr elfennau ychwanegol o ran diogelwch a theithio llesol, ac mae arnaf i ofn, fel gyda phob cynllun dan haul, mae hi'n anochel y bydd yn rhaid iddo fodloni'r un profion ag unrhyw achos arall o gynllunio ffordd, ac wedyn o ran ei fforddiadwyedd. Ond mae'r Aelod wedi dadlau'r achos dros y cynllun yn gyson ac yn effeithiol, ac fe fydd y Gweinidog sy'n gyfrifol wedi clywed y pwyntiau a wnaeth ef y prynhawn yma.