Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 7 Mawrth 2023.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae tair afon sy’n ardaloedd cadwraeth arbennig o fewn etholaeth Dwyfor Meirionnydd. Mae afon Glaslyn ac afon Gwyrfai yn cyrraedd y safon ffosffad, tra bod afon Dyfrdwy yn methu. Byddaf yn cadeirio ail uwchgynhadledd ar ffosffad yfory, er mwyn cyflymu'r camau sydd eu hangen i wella ansawdd dŵr yn yr afonydd sy’n ardaloedd cadwraeth arbennig.